18 Mawrth 2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn atgoffa cleifion meddygfeydd Cross Hands a’r Tymbl y bydd Partneriaeth Aman Tawe yn ymgymryd â’r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar 1 Ebrill 2024.
Ym mis Chwefror, cadarnhaodd BIP Hywel Dda fod y contract wedi’i wobrwyo i’r Bartneriaeth amlddisgyblaethol a phrofiadol, sydd eisoes yn darparu gofal i gleifion Hywel Dda ar draws Gwauncaegurwen, Garnant a Brynaman.
Mae'r rhan fwyaf o aelodau tîm presennol y meddygfeydd wedi dewis parhau yn eu rolau a byddant yn trosglwyddo i'r rheolwyr newydd, gan sicrhau parhad da i gleifion cofrestredig.
Yn anffodus, mae’r Bwrdd Iechyd wedi cael gwybod yn ddiweddar iawn gan berchnogion adeilad Meddygfa’r Tymbl, na fydd y cyfleuster hwn ar gael i’w brydlesu o 1 Ebrill. Mae hyn yn golygu y bydd yr holl apwyntiadau a gwasanaethau yn cael eu darparu o Ganolfan Iechyd Cross Hands yn unig.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio'n gyflym gyda'r Bartneriaeth i flaenoriaethu'r newidiadau angenrheidiol i Ganolfan Iechyd Cross Hands er mwyn darparu ar gyfer yr apwyntiadau cleifion ychwanegol a'r staff o Feddygfa'r Tymbl a fydd yn trosglwyddo i Bartneriaeth Aman Tawe ar 1 Ebrill.
Mae cynlluniau hefyd yn mynd rhagddynt ar gyfer Canolfan Iechyd a Llesiant newydd yn Cross Hands, a’r gobaith yw y bydd y feddygfa’n gallu dechrau darparu gwasanaethau o’r adeilad modern a phwrpasol hwn yn 2026.
Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Meddygfa’r Tymbl wedi’i defnyddio’n bennaf fel canolfan ar gyfer y tîm gweinyddol, ar gyfer rhai apwyntiadau nyrsys a nifer cyfyngedig o apwyntiadau meddygon teulu. Yn y dyfodol, bydd pob apwyntiad meddyg teulu yn cael ei ddarparu o Ganolfan Iechyd Cross Hands.
“Fodd bynnag, mae’r Bwrdd Iechyd yn deall y gallai cau Meddygfa’r Tymbl gael effaith ar rai cleifion. Os oes angen rhagor o wybodaeth ar unrhyw glaf sydd wedi cofrestru gyda meddygfeydd Cross Hands a’r Tymbl, ffoniwch Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 0300 303 8322 (opsiwn 5), e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk neu ysgrifennwch at FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD.
“Ar ran y Bwrdd Iechyd, y feddygfa a thîm rheoli Partneriaeth Aman Tawe, hoffwn ddiolch i gleifion am eu cefnogaeth barhaus ar yr adeg hon o newid a rhoi sicrwydd bod pawb sy’n gysylltiedig yn cydweithio i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar gleifion a gwasanaethau.”