Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Meningitis B

20 Mawrth 2026

Rydym yn deall bod cryn bryder ynghylch yr achosion o Llid yr Ymennydd B (Men B) yn lleol yng Nghaint.

Mae'r sefyllfa yn cael ei monitro'n agos gan ein cydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw dystiolaeth o risg uwch i unrhyw un yn ardal Hywel Dda na Chymru gyfan.

Mae brechiad Men B wedi bod yn rhan o'r amserlen brechu plant arferol ers 2015. Rhoddir tri dos o Men B, a hynny ar ôl wyth wythnos, 16 wythnos a 12 mis.

Yn seiliedig ar bolisi’r GIG, nid yw brechiad Men B ar gael yn rheolaidd i blant hŷn nac oedolion, a does dim newid i’r drefn hon.

Peidiwch â chysylltu â'r bwrdd iechyd na'ch meddyg teulu ar gyfer brechiad Men B ar gyfer plant dros ddwy oed.

Os yw'ch plentyn yn 12-24 mis ac nad yw wedi derbyn tri dos o frechlyn Men B, efallai y bydd eich meddygfa yn gallu darparu'r brechlyn fel rhan o raglen ‘dal i fyny’. Gweler gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol neu dudalen we ar gyfer eich meddygfa i weld a ydyn nhw'n cysylltu â chleifion cymwys neu'n eich cynghori chi i gysylltu â nhw.

Nid yw achosion o meningitis bob amser oherwydd Meningitis B. Mae yna fathau eraill o straenau meningitis, ac mae brechlyn i amddiffyn rhag y mwyaf cyffredin o'r rhain. Mae brechlyn Llid yr Ymennydd ACWY (Men ACWY) yn cael ei gynnig i bobl ifanc 13-14 oed mewn ysgolion ar hyn o bryd gan dimau nyrsio ysgolion.

Bydd y bwrdd iechyd yn cysylltu â phob plentyn ysgol sydd wedi colli eu cyfle i gael y brechlyn. Am ddyddiadau a lleoliadau, ewch i'n tudalen we bwrpasol Imiwneiddiadau Nyrsio Ysgolion - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (agor mewn dolen newydd).

Ar gyfer disgyblion ac oedolion ifanc sy'n cael eu haddysgu gartref, hyd at 25 oed, nad ydynt wedi cael brechlyn Men ACWY, rydych chi'n gymwys i gael eich brechu drwy gysylltu â'ch meddygfa.

Bydd y brechlyn hwn yn amddiffyn rhag straenau meningitis cyffredin ond nid yw'n cynnwys Men B. Gweler gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol neu dudalen we eich meddygfa i weld a ddylid cysylltu â nhw ynghylch brechu neu a ydyn nhw'n feddygfa sy'n cysylltu â chleifion cymwys yn rhagweithiol.

Er nad oes tystiolaeth o risg uwch i unrhyw un yng Nghymru ar hyn o bryd, hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i'ch gwneud yn ymwybodol o arwyddion a symptomau llid yr ymennydd.

Mae'r rhain yn cynnwys twymyn, cur pen, chwydu, gwddf stiff, sensitifrwydd i olau, brech nad yw'n pylu pan gaiff ei wasgu, bod yn gysglyd, dryswch, dwylo a thraed oer a phoen yn y coesau a’r breichiau. Ceisiwch gymorth brys os ydych chi'n pryderu.

Cysylltwch â GIG 111 GIG 111 Cymru - Hafan (agor mewn dolen newydd) neu wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru Hafan - Iechyd Cyhoeddus Cymru (agor mewn dolen newydd) os oes angen arweiniad pellach arnoch.