Cynghorir cleifion sydd wedi'u cofrestru â Phractis Meddyg Teulu Neyland a Johnston fod y practis yn gweithio ar gynlluniau ar gyfer ailagor yn raddol dros yr wythnos gan ddechrau ddydd Llun 16 Tachwedd, yn dilyn glanhau a dadheintio.
Rhoddwyd mesurau dros dro ar waith gan y practis i amddiffyn cleifion a staff yn dilyn nifer o staff a brofodd yn bositif am COVID-19 y mis diwethaf.
Mae'r practis yn parhau i weithio'n agos iawn gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i adfer gwasanaethau cyn gynted â phosibl. Bydd contractwyr eraill ar draws Clwstwr De Sir Benfro yn parhau i gefnogi'r gwasanaeth dros yr wythnos i ddod.
Dylai cleifion sydd angen defnyddio gwasanaethau gysylltu â'u meddygfa gan ddefnyddio'r rhif arferol.
Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Thymor Hir ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch i gleifion am eu hamynedd a’u dealltwriaeth dros y pythefnos diwethaf a hoffem sicrhau bod yr holl olrhain cyswllt priodol a threfniadau rheoli heintiau ar waith i amddiffyn cleifion a staff. ”
Cofiwch, os oes angen i chi fynd allan, cadwch eich pellter (2 fetr), golchwch eich dwylo yn rheolaidd a gwisgwch orchudd wyneb lle bo angen.
I gael arweiniad diweddaraf Llywodraeth Cymru, ewch i: gov.wales/coronavirus