3 Chwefror 2023
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi cael gwybod gan ei undebau llafur na fydd y gweithredu diwydiannol oedd wedi ei gynllunio ar gyfer dydd Llun a dydd Mawrth (6 a 7 Chwefror 2023) yn digwydd. Mae'n ddrwg gennym os yw eich apwyntiad wedi cael ei effeithio.
Lle bo'n bosib, bydd ein timau yn ceisio adfer gwasanaethau ar gyfer dydd Mawrth, 7 Chwefror.
Os ydym wedi cysylltu â chi yn barod i aildrefnu eich apwyntiad ar gyfer dyddiad arall, cadwch yr apwyntiad newydd, oni bai ein bod yn cysylltu â chi ddydd Llun i aildrefnu. Byddwn ni'n ceisio cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy neges destun.
Os nad yw ein timau'n cysylltu â chi, gofynnwn yn garedig i chi beidio â mynychu eich apwyntiad gwreiddiol ar 6 neu 7 o Chwefror.
Diolch am eich amynedd a'ch cefnogaeth.