20 Chwefror 2025
Statws presennol a'r camau nesaf
Gweithredwyd y newid dros dro i oriau agor Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywysog Philip ar 1 Tachwedd 2024, gan newid yr oriau i 8:00am - 8:00pm bob dydd am chwe mis. Roedd y newid hwn yn angenrheidiol i sicrhau diogelwch cleifion a staff oherwydd prinder meddygon teulu ar gael i gyflenwi yn yr Uned Mân Anafiadau dros nos, ac roedd yn mynd i’r afael â phryderon diogelwch a godwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Proses ymgysylltu
Er mwyn pennu ateb hirdymor cynaliadwy, rydym yn cynnal cyfres o sesiynau ymgysylltu gyda grŵp amrywiol o randdeiliaid. Ynghyd â’n grŵp rhanddeiliaid, rydym yn gweithio drwy restr o opsiynau a fydd yn cael eu hystyried gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ddiwedd mis Mawrth. Mae'r grŵp rhanddeiliaid yn cynnwys nyrsys, clinigwyr, y gwasanaeth ambiwlans, meddygon teulu y tu allan i oriau, cynrychiolwyr grwpiau ymgyrchu, ac aelodau o'r gymuned (a ddewisir ar hap o restr hir o wirfoddolwyr).
Opsiynau sy'n cael eu hystyried
Roedd y rhestr hir o 12 opsiwn yn cynnwys modelau amrywiol dan arweiniad meddygon teulu a nyrsys, yn ogystal â gwahanol fathau o Ofal Brys yr Un Diwrnod (SDUC) gydag oriau agor amrywiol. Y rhain oedd:
a phedwar opsiwn amgen wedi'u hychwanegu oherwydd adborth a dderbyniwyd yn ystod y sesiwn gwirio a herio:
Mae ystyriaethau allweddol yn cynnwys:
• Opsiynau a arweinir gan Feddygon Teulu a Nyrsys: Mae'r modelau hyn yn canolbwyntio ar sicrhau y gall yr Uned Mân Anafiadau weithredu'n effeithiol gyda'r gweithlu sydd ar gael.
• Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDUC): Nod y model hwn yw ehangu’r ystod o gyflyrau sy’n cael eu trin yn yr Uned Mân Anafiadau, tra’n sicrhau bod cleifion yn gweld y clinigwr mwyaf priodol.
Heriau ac ystyriaethau
Mae trafodaethau wedi tynnu sylw at sawl her, gan gynnwys yr anhawster parhaus wrth recriwtio meddygon teulu i staffio gwasanaeth Uned Mân Anafiadau 24 awr. Codwyd materion trafnidiaeth hefyd, gyda phryderon ynghylch mynediad at ofal i unigolion heb gar.
Camau nesaf
Ar ddiwedd y drydedd sesiwn (a gynhaliwyd ar 17 Chwefror), pleidleisiodd y cyfranogwyr ar yr opsiynau. Bydd y rhai sy'n bodloni'r meini prawf rhwystr yn symud ymlaen i'r cam nesaf.
Bydd y sesiynau nesaf, a drefnwyd ar gyfer 24 Chwefror a 3 Mawrth, yn canolbwyntio ar wirio a herio pellach a sgorio opsiynau ar y rhestr fer.
Bydd argymhelliad terfynol o opsiynau ar y rhestr fer yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd yn ei gyfarfod ar 27 Mawrth.
Diolch i’r holl gyfraniadau amhrisiadwy gan y cynrychiolwyr cymunedol, partneriaid a staff am gefnogi’r broses hyd yma.