Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar opsiynau ar gyfer Uned Mân Anafiadau Llanelli

6 Mawrth 2025

Ar 3 Mawrth cwblhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyfres o weithdai ymgysylltu, gyda chyfranogiad gan staff, aelodau’r gymuned a rhanddeiliaid, i archwilio ffordd hirdymor o ddarparu gofal yn yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip.

Roedd y grŵp rhanddeiliaid yn cynnwys nyrsys, clinigwyr, y gwasanaeth ambiwlans, meddygon teulu y tu allan i oriau, cynrychiolwyr grwpiau ymgyrchu, a phobl yn ein cymuned a fynegodd ddiddordeb (cynrychiolwyr o blith y rhestr hon a ddewiswyd ar hap). Cytunodd y gweithdai ar y meini prawf gofynnol y byddai angen i’r opsiynau eu bodloni, a’u pwysoli ar gyfer sgorio. Mae pwysoli yn rhoi pwys ar y materion sydd bwysicaf.

Roedd y rhai a gymerodd ran yn cytuno bod angen i’r opsiynau;

  • fod yn ddiogel
  • helpu i leihau amseroedd aros
  • cyflawni safonau ysbyty ehangach
  • fod yn gynaliadwy (yn economaidd ac ar gyfer y gweithlu)
  • fod yn deg a chyfartal
  • canolbwyntio ar gleifion

Yn ystod y sesiwn anogwyd pobl i ofyn cwestiynau am y broses a'r opsiynau.

Sgoriodd y grŵp bedwar opsiwn ar y rhestr fer, sef:

  • Uned 12-awr dan arweiniad meddyg – yn unol â'r model dros dro sydd mewn lle ar hyn o bryd, byddai hon ar agor i'r cyhoedd am 12 awr, gyda dwy awr arall o staffio i ganiatáu i gleifion yn yr uned gael eu trin
  • Uned 16 awr dan arweiniad meddyg – byddai hon ar agor i'r cyhoedd am 14 awr, gyda dwy awr arall o staffio i ganiatáu i gleifion yn yr uned gael eu trin
  • Opsiwn graddol, dan arweiniad meddyg o 12 awr hyd at 24 awr - byddai hwn ar agor i'r cyhoedd am y 12 awr bresennol i ddechrau, ynghyd â dwy awr o staffio, gan symud i 16 awr, gan gynnwys dwy awr o staffio, ac yn y pen draw 24 awr yn gyffredinol
  • Canolfan triniaeth gofal brys 16 awr (model o'r un math o Ofal Brys yr Un Diwrnod) - byddai hon ar agor i'r cyhoedd am 14 awr gyda dwy awr arall i ganiatáu i gleifion yn yr uned gael eu trin

Nodwch:  

Rydym yn cydnabod bod anghysondeb yn y ffordd y disgrifir opsiynau uchod. Mae teitlau rhai yn ôl yr oriau agor i'r cyhoedd, ac eraill yn cael eu henwi yn ôl pa mor hir y mae'r staffio yn parhau yn ei le i ofalu am bobl sy'n mynychu tua diwedd oriau agor cyhoeddus. Rydym wedi parhau i ddefnyddio'r teitlau hyn ar hyn o bryd gan mai dyma sut y disgrifiwyd yr opsiynau yn y broses datblygu opsiynau hyd yma. Fodd bynnag, pe bai'r Bwrdd yn penderfynu symud i ymgynghoriad cyhoeddus ar yr opsiynau hyn, rydym wedi argymell ail-deitlo opsiynau, fel eu bod yn gyson ac yn adlewyrchu'r oriau agor i'r cyhoedd.

Bydd y sgorau ar gyfer yr opsiynau hyn ar y rhestr fer a'r broses hyd yn hyn yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd eu hystyried ac i benderfynu ar y camau nesaf. Fel rhan o’r broses hon, bydd y Bwrdd yn pennu:

  • A ellir adfer y model 24/7 blaenorol
  • Os na, a ddylai'r broses symud i ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol

Bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i ddarparu diweddariadau a, phe bai’r bwrdd yn argymell ymgynghoriad, byddwn yn gwahodd y gymuned ehangach i gymryd rhan yn y broses. Bryd hynny bydd aelodau o'r cyhoedd a staff yn dysgu mwy am yr opsiynau, yn gallu cynnig opsiynau ychwanegol, yn ogystal â rhoi eu barn ar yr opsiynau a awgrymir.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu ar y camau nesaf, yn dilyn canlyniadau o'r Bwrdd Cyhoeddus ar 27 Mawrth. Byddwn yn parhau i gynnwys ac ymgysylltu â’n cymunedau.