Neidio i'r prif gynnwy

'Ditectifs iechyd' yn helpu i atal derbyniadau i'r Ysbyty

18 Mawrth 2025

Mae tîm amlddisgyblaethol o Ysbyty Tywysog Philip Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn llwyddo i atal derbyniadau i ysbytai yn ymwneud ag eiddilwch.

Ers mis Mai 2024, mae Gwasanaeth Amlddisgyblaethol Mynediad Cyflym De Sir Gaerfyrddin (SCRAMS), gwasanaeth cwympiadau ac eiddilwch gofal canolraddol, wedi derbyn mwy na 200 o atgyfeiriadau. Ymchwilir i bob achos er mwyn deall anghenion cleifion a galw ar y gwasanaethau cywir i ddarparu gofal a chymorth lle bo angen.

Yn rhan o dîm SCRAMS yw Brif Nyrs Gofal Integredig, Ann-Marie John, a esboniodd: “Mae eiddilwch yn gyflwr iechyd nodedig sy’n gysylltiedig â’r broses heneiddio lle mae llawer o systemau’r corff yn colli eu cronfeydd wrth gefn yn raddol. Mae tua 10 y cant o bobl dros 65 oed yn eiddil, gan godi i rwng chwarter a hanner y rhai dros 85 oed.

“Mae bod yn fregus yn golygu bod problem iechyd gymharol ‘fach’ yn gallu cael effaith hirdymor ddifrifol ar iechyd a lles rhywun.

“Mae llawer o ffactorau yn cyfuno dros amser i wneud person yn fregus gan gynnwys diffyg hylif, colli pwysau, colli cryfder a chydbwysedd cyhyrau, cwympo, colli hyder, blinder a chyflyrau iechyd meddwl fel iselder a phryder.

“Nid yw eiddilwch yn rhan anochel o heneiddio; mae’n gyflwr hirdymor y gellir ei reoli gyda gofal sy’n canolbwyntio ar y claf.”

Unwaith y bydd claf wedi'i nodi gan feddyg teulu a'i frysbennu gan ymgynghorydd, mae tîm SCRAMS yn dechrau gweithredu. Mae Ann-Marie ynghyd â Ceri Evans, Ymarferydd Cynorthwyol Eiddilwch, yn ymweld â’r claf gartref ac yn cynnal asesiad llawn.

“Rydyn ni fel ditectifs iechyd,” meddai Ceri. “Rydyn ni'n ceisio deall y person cyfan. Ydy'r person hwn yn bwyta ac yn yfed digon? Ydy hynny’n achosi iddyn nhw gwympo neu a oes rhywbeth arall?”

Ychwanegodd Ann-Marie: “Yn ystod ein cyfarfod tîm amlddisgyblaethol wythnosol rydym yn adrodd ar ein canfyddiadau ac yna mae cyfeiriadau at wasanaethau eraill fel deieteg, atal cwympiadau neu therapyddion galwedigaethol er enghraifft yn cael eu gwneud.  Mae pob cynllun gofal yn bersonol i bob claf.”

Dywedodd y Geriatregydd Ymgynghorol Dr Zena Marney, arweinydd clinigol ar gyfer SCRAMS Llanelli: “Oedolion dros 65 oed yw chwarter poblogaeth BIP Hywel Dda a rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu’n sylweddol dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae hyn yn golygu bod gennym ni argyfwng eiddilwch sydd ar ddod ac mae'r gwaith a'r gofal y mae tîm SCRAMS yn eu darparu yn hanfodol.

“Mae’n fraint i mi allu gweithio gydag aelodau profiadol ein tîm amlddisgyblaethol SCRAMS sy’n ymroddedig ac yn gweithio’n hynod o galed i ddarparu gofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn y gymuned trwy Asesiad Geriatrig Cynhwysfawr. Mae asesu maeth a hydradiad yn rhan annatod o hyn.”

Ychwanegodd Emma Catling, Arweinydd Strategol Diffyg Maeth, “Mae maethiad a hydradu gwael dros amser yn gallu gwneud person yn fregus. Heb unrhyw danwydd yn y tanc, mae cleifion yn dechrau colli pwysau, cryfder, symudedd a gall eu hiechyd meddwl ddirywio a gall hyn oll arwain at gwympiadau. Gellir atal hyn i gyd.

“Bydd Ceri ac Ann-marie yn darparu pecynnau gwybodaeth maeth a hydradu yn ystod eu hasesiadau cleifion cychwynnol, fel bod ganddynt wybodaeth ar unwaith i’w helpu cyn i’r tîm deieteg gysylltu.”

“Mae tîm SCRAMS yn gweithio i gadw cleifion yn iach ac yn actif gartref gan atal derbyniadau i’r ysbyty. Maen nhw’n rhoi ansawdd bywyd claf yn ôl iddynt.”

Astudiaeth achos:

Pan ddaeth ‘Betty’, gwraig oedrannus, i sylw’r tîm SCRAMS, roedd hi wedi dioddef cyfres o gwympiadau a chafodd ei derbyn i’r ysbyty oherwydd toriad clun a haint ar y frest.

Roedd Betty yn byw yn ei thÅ· ei hun gyda chefnogaeth ei theulu, ei ffrindiau a'i chymuned. Mae ganddi olwg gyfyngedig a cherddodd yn araf gyda chymorth ffon a ffrâm simmer. Roedd hi'n cymryd meddyginiaeth i helpu gyda hypotension ystumiol, neu bwysedd gwaed isel pan fyddai'n sefyll.

Ar ôl pob derbyniad, daeth Betty yn fwy bregus ond roedd yn benderfynol o ddychwelyd adref a chael cymorth gan deulu a ffrindiau. Doedd hi ddim eisiau i becynnau gofal gael eu cynnig ar y pryd.

Roedd derbyniad olaf Betty i’r ysbyty yn arhosiad hir a daeth yn fwy bregus a chollodd ei hyder. Cytunodd Betty fod angen cymorth arni a symudodd i gartref preswyl.

Ailasesodd tîm SCRAMS Betty yn ei chartref newydd a chanfod ei bod wedi colli ei hannibyniaeth a nawr bod angen cymorth arni i symud o gwmpas. Daeth yn fwy bregus ac nid oedd yn bwyta cystal.

Gwnaed atgyfeiriadau ar unwaith i wahanol dimau gan gynnwys deieteg a ffisiotherapi a rhoddwyd cynllun gofal sy'n canolbwyntio ar y claf ar waith, ar y cyd â'i theulu.

Bu’r tîm deieteg yn monitro ei phwysau a’i chymeriant deietegol, gan ychwanegu prydau a byrbrydau cyfnerthedig ynghyd ag ysgytlaeth a sudd yn seiliedig ar hoff a chas bethau Betty.

Gweithredodd ffisiotherapyddion raglen cryfder a chydbwysedd strwythuredig i wella symudedd ac annibyniaeth a ddarperir gan y tîm yn wythnosol. Roedd staff y cartref gofal wedi ymgyfarwyddo â'r rhaglen ymarfer corff i gynorthwyo Betty rhwng ymweliadau.

Trefnodd tîm SCRAMS ymweliadau wythnosol i fonitro pwysau, pwysedd gwaed a chymryd darlleniadau cryfder gan ddefnyddio dynamomedr, dyfais i asesu cryfder cyhyrau yn y llaw a blaen y fraich.

Cymerodd amser hir i Betty ddangos arwyddion o welliant ond roedd gwelliannau ac mae’r briwiau pwyso yr oedd hi wedi'u datblygu wedi gwella.

Ac yn awr…

Mae Betty bron yn ôl at ei phwysau gwreiddiol ac yn cerdded i'r ystafell fwyta heb fawr o gymorth. Yn ôl ei hanwyliaid, “Mae gan Betty ei disglair ‘cheeky’ yn ôl nawr.”

Ac nid yw Betty wedi bod yn ôl i'r ysbyty ers hynny.