Neidio i'r prif gynnwy

Diolch i'n meddygfeydd teulu

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am estyn diolch i’r gwasanaeth gofal sylfaenol am yr ymrwymiad a'r egni a ddangosir gan feddygfeydd teulu, sydd bron â chwblhau cynnig ail ddos i bob claf sydd wedi'i frechu yn eu practis meddyg teulu.

Ymunodd pob un o'r 48 meddygfa ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i gyflawni'r rhaglen, gan ymrwymo i gyflwyno'r rhaglen i rai grwpiau blaenoriaeth JCVI.

O'r holl ddosau a roddwyd hyd yma yn y tair sir, mae bron i 212,000 o frechlynnau (51%) wedi'u rhoi gan feddygfeydd teulu. Mae meddygfeydd bellach ar eu ffordd i gyflawni'r dasg o gynnig ail ddos i bob claf sydd wedi cael brechlyn cyntaf ac sydd eisoes wedi rhoi 96,500dos brechlyn ar adeg cyhoeddi’r darn hwn.

Dywedodd Dr Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Gofal Sylfaenol "O gael y profiad o redeg y rhaglen frechu yn fy mhractis fy hun, rwy'n gwybod pa mor heriol a gwerth chweil yw hi i fod yn rhan o'r rhaglen hon. Mae'n dyst i ymrwymiad ein meddygfeydd i gyflawni y gofal gorau posibl i gleifion eu bod wedi parhau i weithio gyda ni trwy gydol y rhaglen.”

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gwasanaethau Cymunedol a Gofal Hirdymor "Rwy'n falch o'r ymrwymiad a ddangoswyd gan ein holl feddygfeydd a’r gwaith rhagorol y maent wedi'i wneud wrth helpu'r Bwrdd Iechyd i gyflawni'r rhaglen hon. Trwy gydol y pandemig nid yw'r ymrwymiad i gynnal darpariaeth gwasanaethau meddygol cyffredinol i'w cleifion wedi ildio, er bod staff dan bwysau ac yn teimlo'n flinedig. Mae cyflwyno'r rhaglen frechu wedi bod yn ymdrech system gyfan i amddiffyn ein cleifion."