Neidio i'r prif gynnwy

Diolch i'n brechwyr ysgol

Menyw yn derbyn y frechlyn COVID-19

Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda anfon ein diolch i'n nyrsys ysgol a'r rhai sydd wedi brechu eu plant rhag y ffliw dros y tri mis diwethaf.

Mae tîm nyrsio ysgolion ar draws ein tair sir wedi ymweld a gweinyddu'r chwistrell ffliw trwynol i 13,373 o blant eleni, gan helpu i'w hamddiffyn rhag dal a lledaenu'r firws.

Meddai Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus: “Mae ein tîm nyrsio ysgolion wedi bod yn anhygoel o ran sicrhau diogelwch ein plant rhag y ffliw. Mae tîm nyrsio ysgolion wedi mynd y tu hwnt i ofyn ac wedi gweinyddu swm eithriadol o frechlynnau ffliw ac am hynny rydym yn hynod ddiolchgar. ”

“Hoffwn anfon fy niolch personol fy hun i’r rhai ohonoch sydd wedi cydsynio i frechu eich plant, ac wrth wneud hynny helpu i gadw Hywel Dda yn ddiogel.”

Bydd tîm nyrsio ysgolion yn parhau i gynnal sesiynau dros yr wythnos nesaf i sicrhau bod pob plentyn wedi cael cyfle i dderbyn ei frechiad ffliw.

Fodd bynnag, os nad yw eich plentyn wedi derbyn ei frechiad yn yr ysgol, bydd yn gallu ei gael yn ei feddygfa. Cysylltwch â nyrs ysgol eich plentyn trwy'ch ysgol i dderbyn llythyr i ymweld â'ch meddyg teulu.