31 Awst 2021
Hoffai Bwrdd Iechyd Hywel Dda (BIP) (agor mewn dolen newydd) ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymarfer ymgysylltu ddiweddar, a bydd y canfyddiadau ohono’n helpu i lunio gwasanaethau yn y dyfodol.
Yn ystod yr ymarfer chwe wythnos (dydd Llun 10 Mai – dydd Llun 21 Mehefin), gofynnodd y bwrdd iechyd i'r cyhoedd gwblhau arolwg a rhoi eu hadborth ar sut mae pandemig COVID-19 (agor mewn dolen newydd) wedi effeithio ar eu hiechyd a’u gofal, a mynediad iddo. Gofynnwyd I ni ddarparu enwebiadau ar gyfer safleoedd ysbyty newydd yn y parth rhwng a chan gynnwys Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin ac Arberth yn Sir Benfro. A gwnaethom hefyd ofyn am y pethau pwysicaf yr oedd pobl yn meddwl y dylem eu hystyried wrth benderfynu pa safle fydd orau i'n cymunedau.
Mae adroddiad llawn ar y canfyddiadau yn cael ei lunio ar hyn o bryd a bydd yn cael ei gyhoeddi maes o law. Fodd bynnag, datgelodd yr ymarfer rai camsyniadau ynghylch yr ysbyty newydd a dyfodol ysbytai cyfredol. Mae’r bwrdd iechyd yn dymuno sicrhau:
Dywedodd Steve Moore (agor mewn dolen newydd), Prif Weithredwr BIP Hywel Dda: “Rwy’n wirioneddol ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i rannu eu barn a’u profiadau o sut mae COVID-19 wedi effeithio arnyn nhw a’u teuluoedd. Mae eich adborth wedi bod yn graff ac yn addysgiadol a bydd yn chwarae rhan fawr wrth helpu i lunio gwasanaethau yn y dyfodol. Bydd hyn yn ei dro yn caniatáu inni gyflawni ein hymrwymiad tymor hir ar gyfer canol a gorllewin Cymru iachach.
“Er ei bod yn anffodus bod chwedlau a sibrydion am yr ysbyty newydd wedi bod yn cylchredeg, gallwn sicrhau’r cyhoedd bod didwylledd a thryloywder yn bwysig iawn i ni.
“Roedd yr ymarfer hwn yn rhan o’n proses barhaus i ddatblygu achos rhaglen busnes i gefnogi ein strategaeth ar gyfer iechyd a gofal yn y gymuned ac mewn ysbytai. Fel rhan o’r broses i wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn cyflwyno achos busnes y rhaglen, ac yna achosion busnes amlinellol unigol, yna’r achosion busnes terfynol erbyn 2024. Felly bydd y bwrdd iechyd yn ymgysylltu a’r cyhoedd yn rheolaidd rhwng nawr a chyflwyniad yr achosion busnes terfynol i sicrhau bod eich barn yn cael ei hystyried yn llawn.”
Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn cadw llygad ar Gyngor Iechyd Cymunedol Hywel dda, corff gwarchod annibynnol gwasanaethau’r GIG yn Sir Caerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, fel y gall helpu i gynrychioli buddiannau ein cymunedau lleol.