Neidio i'r prif gynnwy

#DiogeluCymru - Peidiwch â gohirio tan yfory yr hyn y gallwch chi ei wneud heddiw i'n helpu ni i'ch helpu chi'r gaeaf hwn

‘Peidiwch â gohirio tan yfory yr hyn y gallwch ei wneud heddiw’ - mae dyfyniad enwog Benjamin Franklin yn wir am unrhyw un sydd angen cyngor meddygol ar hyn o bryd neu sy’n mynychu apwyntiad rheolaidd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am eich sicrhau bod yr holl wasanaethau gofal sylfaenol yn dal i fod yma i chi.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Helpwch ni i'ch helpu chi'r gaeaf hwn. Trwy ohirio anhwylderau bach neu apwyntiadau rheolaidd fe allech chi fod yn rhoi mwy o straen ar wasanaethau brys y GIG.

“Gall beidio a chael prawf llygaid er eich bod chi'n gwybod bod eich golwg wedi dirywio arwain at gwymp cas yn y pen draw, neu, gall y peswch hwnnw a oedd angen meddyginiaeth gan fferyllydd arwain at argyfwng wrth iddo ddatblygu'n niwmonia.

“Mae'r ffordd y mae pobl yn cyrchu gwasanaethau'r GIG wedi newid, ac er y gallai edrych yn wahanol, mae gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn gweithio'n galed i gadw gwasanaethau i fynd wrth geisio cadw pawb yn ddiogel ac yn iach.”

Dywed Dr Llinos Roberts, Meddyg Teulu ym Meddygfa Tymbl: “Peidiwch â gohirio unrhyw beth. Mae meddygfeydd lleol ar agor ac rydym yma i gynnig cyngor meddygol ac ymgynghori â chleifion, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.”

Mae Heddwyn Davies yn optometrydd yn Optegwyr Evans & Hughes, sydd â changhennau yn Llanymddyfri, Llandeilo, Llanbedr Pont Steffan a Rhydaman. Meddai: “Mae archwiliadau rheolaidd yn bwysig er mwyn sicrhau eich bod yn parhau i fwynhau’r olwg orau.”

Dywedodd Dr Guto Griffiths, Deintydd ym Mhractis Deintyddol Brynteg yn Nhinbych-y-pysgod: “Er ein bod yn parhau i weithio ein ffordd trwy'r ôl-groniad o archwiliadau, rydym ar agor, ynghyd â'r holl feddygfeydd deintyddol eraill, os oes gan gleifion unrhyw fath o broblem ddeintyddol.”

Ychwanegodd Richard Evans, Fferyllydd Cymunedol o Landysul: “Er ein bod wedi gorfod addasu ein gwasanaethau yn ystod y pandemig, rydym wastad wedi bod ar agor a byddwn yn parhau i ddarparu meddyginiaeth o dan y cynllun anhwylderau cyffredin neu gyflenwi meddyginiaeth mewn argyfwng.”

Felly mae ein gwasanaethau Gofal Sylfaenol yma i chi pe bai angen i chi gael mynediad atynt ar yr adeg hon.

Helpwch ni i'ch helpu chi:

  • Os nad ydych yn siŵr beth yw'r ffordd orau o gael triniaeth, gwiriwch ar-lein: https://111.wales.nhs.uk/ neu ffoniwch 111 i gael cyngor.
  • Os ydych chi'n poeni am symptomau parhaus, cysylltwch â'ch meddyg teulu.

Cofiwch os oes gennych symptomau COVID-19, ni waeth pa mor ysgafn, hunan-ynyswch ac archebwch brawf trwy borth archebu'r DU.