Neidio i'r prif gynnwy

Diogelu eich hun gyda brechlyn ffliw a / neu COVID-19 wrth i sesiynau galw heibio ddechrau

17 Rhagfyr 2024

Gyda ffliw yn cylchredeg yn y gymuned, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog pawb sy’n gymwys i alw heibio am eu brechlynnau ffliw a COVID-19 i helpu i amddiffyn eu hunain y gaeaf hwn.

Gall firysau ffliw a COVID-19 achosi salwch difrifol, yn enwedig mewn plant iau, unigolion sy’n agored i niwed yn glinigol ac oedolion hŷn sydd weithiau angen mynd i’r ysbyty.

Bydd canolfannau brechu ar agor ar 23, 24, 27, 30 a 31 Rhagfyr i bawb sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw a COVID-19, ac nid oes angen apwyntiad. Mae hyn yn cynnwys plant 2 oed (ar 31 Awst 2024) i’r rhai ym mlwyddyn 11, sy’n gallu cael y brechlyn ffliw trwynol yn y canolfannau.

Galwch heibio unrhyw amser rhwng 09:15 ac 5:30 i'ch canolfan frechu agosaf:

  • Aberaeron (Canolfan Gofal Integredig Aberaeron, Godre Rhiwgoch, Aberaeron SA46 0DY)
  • Llanelli (Uned 2a, Ystad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin SA14 8QW)
  • Neyland (Uned 1, Parc Manwerthu Honeyborough SA73 1SE)

Mae'r grwpiau canlynol yn gymwys i gael eu brechu:

Brechu rhag y ffliw

  • Plant dwy a thair oed ar 31 Awst 2024
  • Plant ysgol gynradd o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 6
  • Plant ysgol uwchradd o flwyddyn 7 i flwyddyn 11
  • Pobl rhwng chwe mis a 64 blwydd oed mewn grwpiau risg clinigol
  • Pobl 65 oed a hŷn (oed ar 31 Mawrth 2024)
  • Menywod beichiog
  • Gofalwyr 16 oed a throsodd
  • Pobl rhwng 6 mis a 65 oed sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan
  • Pobl ag anabledd dysgu
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Pob aelod o staff sy'n gweithio mewn cartref gofal sydd mewn cyswllt rheolaidd â chleientiaid
  • Gweithwyr dofednod sydd mewn risg uchel

Brechu rhag COVID-19

  • Pobl rhwng 6 mis a 64 blwydd oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor (sy'n cynnwys menywod beichiog a phobl â system imiwnedd wan)
  • Preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • Pobl 65 oed a hŷn (oed ar 31 Mawrth 2025)
  • Gofalwyr di-dâl
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cael brechlyn ffliw a/neu COVID-19, ffoniwch y bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 a dewis opsiwn 1 neu e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk.

Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys i gael y brechlyn ffliw a/neu COVID-19, cysylltwch â’r bwrdd iechyd ar y manylion uchod.