Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad Galw Heibio newydd Tywyn ar gyfer Ymgynghori ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol

18 Gorffennaf 2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ychwanegu digwyddiad ymgynghori ychwanegol yn Nhywyn, Gwynedd, mewn ymateb i adborth gan y cyhoedd, gan sicrhau bod mwy o bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau gofal iechyd lleol yn cael y cyfle i rannu eu barn ar Gynllun Gwasanaethau Clinigol ein Bwrdd Iechyd.

Cynhelir y digwyddiad galw heibio ar ddydd Llun 4 Awst, 3.00-6.00pm, yn Neuadd Pendre Tywyn, Brook Street, Tywyn, Gwynedd, LL36 9DP. Nod y digwyddiad yw rhoi gwybodaeth i bobl am yr ymgynghoriad ac opsiynau ar gyfer newid, a rhoi cyfle i siarad â staff y Bwrdd Iechyd a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o'r ymgynghoriad parhaus ar y rhaglen Cynllun Gwasanaethau Clinigol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ceisio barn ar naw gwasanaeth gofal iechyd i wella mynediad a safonau ac ymdrin â heriau presennol.

Y gwasanaethau sydd wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad yw gofal critigol, dermatoleg, llawfeddygaeth gyffredinol frys, endosgopi, offthalmoleg, orthopaedeg ddewisol, radioleg, strôc ac wroleg.
Gallai cynigion newid y ffordd y darperir y gwasanaethau hyn mewn ysbytai a rhai cyfleusterau cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn y dyfodol. Mae rhai o’n gwasanaethau hefyd yn gwasanaethu cymunedau ar ffiniau Hywel Dda yn ne Gwynedd, rhannau o Bowys ac Abertawe/Castell-nedd Port Talbot.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Meddygol Mr Mark Henwood: “Rydym wedi ychwanegu digwyddiad Tywyn mewn ymateb uniongyrchol i adborth cymunedol, fel rhan o’n hymrwymiad i wrando ac ymgysylltu â’n cyhoedd. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i drigolion de Gwynedd a’r cyffiniau ddysgu mwy am yr ymgynghoriad, archwilio’r opsiynau sy’n cael eu hystyried, a siarad yn uniongyrchol ag uwch aelodau ein tîm. Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud, ac nid oes unrhyw opsiynau a ffefrir, felly rydym yn annog pobl i ddod draw, gofyn cwestiynau, a rhannu eu barn.”
P’un a ydych yn glaf, yn aelod o’r gymuned, yn aelod o staff neu’n rhywun sydd â diddordeb mewn iechyd a lles, gallwch alw heibio i’r digwyddiad unrhyw bryd.

Gellir rhannu adborth hefyd trwy lenwi holiadur ac mae amrywiaeth o ffyrdd o wneud hynny:

  • Ar-lein: Gellir cwblhau'r holiadur ar-lein yma (agor mewn dolen newydd)
  • Gofyn am holiadur: Gellir postio copi papur o'r holiadur. Gofynnwch am gopi drwy e-bostio: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk   
  • Yna gellir dychwelyd holiaduron wedi'u cwblhau yn rhad ac am ddim i: Opinion Research Services, FREEPOST SS1018, PO Box 530, Swansea, SA1 1ZL  
  • Rhif ffôn: I rannu barn neu ofyn am ragor o wybodaeth ffoniwch 0300 303 8322 (opsiwn 5), gyda chost galwadau lleol.

Bydd y Bwrdd yn ystyried y cyfan a glywsant yn arwain at, ac yn ystod, yr ymgynghoriad hwn. Mae hyn yn cynnwys asesiadau o’r effaith ar iechyd a chydraddoldeb, a fydd yn ystyried sut y gallai pobl gael eu heffeithio a beth sydd angen ei wneud i leihau effeithiau negyddol. Byddant hefyd yn ystyried unrhyw syniadau newydd ac ni fydd penderfyniadau'n cael eu seilio'n gyfan gwbl ar y dewisiadau a ddewiswyd yn yr holiadur.

Mae gwybodaeth am yr ymgynghoriad, gan gynnwys manylion y digwyddiad, yr holiadur a dogfennau mewn fformatau ac ieithoedd hygyrch, ar gael ar dudalennau gwe ymgynghoriad penodol y Bwrdd Iechyd yma (agor mewn dolen newydd).

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 31 Awst 2025, ac rydym yn annog pawb i fanteisio ar y cyfle hwn i rannu eu barn.