Cynhelir sesiwn galw-heibio ar gyfer cleifion Meddygfa Mariners, sef cangen o Feddygfa Minafon, er mwyn cywain barn trigolion lleol a rhanddeiliaid eraill ar ddyfodol y gwasanaethau hyn.
Bydd y digwyddiad ar ddydd Mawrth 15 Hydref yng ngwesty Three Rivers, Poachers Rest, Glan-y-fferi a gwahoddir cleifion i alw mewn unrhyw bryd rhwng 2pm a 7pm.
Dyma gyfle i gleifion a rhanddeiliaid siarad a rhannu eu barn â staff y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor Iechyd Cymuned.
Fel arall, cysylltwch â ni i rannu eich barn:
• Ffôn – 0300 0200 159
• Ebost – HDUHB.GMS.hdd@wales.nhs.uk
• Post – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, RHADBOST, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1BR
Bydd yr holl adborth yn cael ei gasglu a’i rannu â’r Cyngor Iechyd Cymuned, ac yn ffurfio rhan o’n hadolygiad ar ddyfodol y gwasanaethau hyn.
Meddai Jill Paterson, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus yn Hywel Dda: “Fel Bwrdd Iechyd rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â phoblogaethau lleol ynghylch ein cynigion i adleoli ein gwasanaethau Gofal Sylfaenol o Feddygfa Mariners i feddygfeydd cyfagos. Felly, dymunwn wahodd trigolion i ymuno yn y drafodaeth.
“Yn dilyn adolygiad ar sut mae cleifion yn defnyddio gwasanaethau yn y feddygfa, mae’n dod yn eglur nad yw’r gwasanaethau hyn yn cael eu defnyddio’n llawn a gellir eu hadleoli i Feddygfa Minafon a Meddygfa Trimsaran.”
Atgoffir cleifion bod gwasanaethau hefyd ar gael mewn fferyllfeydd cymunedol yn lleol sy’n cynnig ystod o wasanaethau arbenigol. Mwy o wybodaeth: