[Datganiad i'r wasg Cyngor Sir Caerfyrddin - 5 Rhagfyr 2024]
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd aelodau o'r cyhoedd i ddigwyddiad cyhoeddus yn Uned 10, Rhodfa'r Santes Catrin ar 12 Rhagfyr 2024 am 15:30-17:00.
Mae hwn yn gyfle i aelodau'r cyhoedd ddod i siarad â swyddogion prosiect, yn ogystal â chynrychiolwyr o sefydliadau partner, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Chwaraeon a Hamdden Actif a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, am y datblygiad.
Pwrpas y digwyddiad yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Hwb Iechyd a Llesiant Caerfyrddin, yn ogystal â rhoi trosolwg o'r weledigaeth, y cysyniad a'r cyfleoedd.
Darllen y datganiad i'r wasg yma: Digwyddiad Carreg Filltir yn Hwb Iechyd a Llesiant Caerfyrddin (agor mewn dolen newydd)