Neidio i'r prif gynnwy

Diffibrilwyr newydd at ddefnydd y cyhoedd mewn ysbytai lleol

07 Mai 2025

Mae gan aelodau o'r cyhoedd fynediad nawr at bedwar diffibriliwr newydd ar bob un o brif safleoedd ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae hyn wedi’i wneud yn bosibl drwy gydweithio rhwng y bwrdd iechyd ac Achub Bywyd Cymru i osod diffibrilwyr mynediad cyhoeddus i’w defnyddio yn y gymuned. Mae'r rhain wedi'u gosod yn y safleoedd canlynol ac maent ar gael i'w defnyddio:

  • Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, wrth y brif fynedfa ger arwydd yr Ysbyty
  • Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, ger yr arhosfan bws wrth fynedfa'r Ysbyty
  •  Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, ger mynedfa'r fferyllfa
  • Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, wrth y gylchfan wrth y brif fynedfa

Am bob munud na chychwynnir CPR a diffibrilio, mae'r siawns o oroesi yn lleihau o 10%. Gall CPR ar unwaith a diffibrilio cynnar gynyddu cyfraddau goroesi yn sylweddol. Pwrpas y prosiect hwn yw cynyddu argaeledd diffibrilwyr achub bywyd at ddefnydd y cyhoedd.

Darparodd Achub Bywyd Cymru y pedwar diffibriliwr yn hael, heb unrhyw gost i’r bwrdd iechyd. Mae’r diffibrilwyr yn cael eu cadw mewn cypyrddau wedi’u gwresogi a byddant yn cael eu gwirio’n rheolaidd gan ‘warcheidwaid’ gwirfoddol. Mae pob diffibriliwr mynediad cyhoeddus wedi'i gofrestru gyda'r Rhwydwaith Diffibriliwr Cenedlaethol  ac mae hyn yn golygu, os bydd eu hangen, y bydd y sawl sy'n derbyn galwad ambiwlans 999 yn gallu cyfeirio rhywun atynt.

Mae'r diffibrilwyr yn hawdd iawn i'w defnyddio ac yn cynnig awgrymiadau llais. Mewn achos o ataliad ar y galon, bydd angen i aelodau'r cyhoedd ffonio 999. Byddan nhw'n cael eu cynghori ble mae'r diffibriliwr agosaf ac i ddilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir  wrth berfformio CPR a darparu diffibriliwr.Peidiwch byth â stopio CPR, anfonwch rywun arall i nôl y diffibriliwr ar eich rhan bob amser.

Dywedodd yr Athro Len Nokes, Cadeirydd Achub Bywyd Cymru: “Mae Achub Bywyd Cymru yn falch iawn o ddarparu pedwar diffibriliwr mynediad cyhoeddus newydd i safleoedd allweddol ar ystâd Hywel Dda. Mae hyn yn rhoi mynediad 24/7 i'r cymunedau cyfagos ac ymwelwyr â'r safleoedd hyn at ddiffibrilwyr achub bywyd. Gwyddom am bob munud y mae rhywun yn cael ataliad ar y galon heb dderbyn CPR a chael diffibriliwr wedi'i ddefnyddio arnynt, mae eu siawns o oroesi yn gostwng 10%.

“Bydd Marc Gower, ein Cydlynydd Cymunedol Achub Bywyd Cymru yng ngorllewin Cymru, yn cefnogi’r gwarcheidwaid diffibriliwr i sicrhau eu bod yn parhau i gael eu cofrestru ar y rhwydwaith a bod eu lleoliad ar gael i dderbynwyr galwadau 999 Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, er mwyn helpu i achub mwy o fywydau.

Dywedodd Dr Eiry Edmunds, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Dros Dro ar gyfer Gofal Acíwt yn Ysbyty Glangwili: “Rwy’n falch o’n cydweithrediad ag Achub Bywyd Cymru i sicrhau bod diffibrilwyr mynediad cyhoeddus ar gael yn ein safleoedd ysbyty. Mae’r cydweithrediad hwn yn darparu offer a allai achub bywydau i’n cymunedau.”

“Dyma’r amser perffaith i wneud y cyhoeddiad hwn gan fod mis Chwefror hefyd yn cael ei adnabod fel Defibruary – mis cyfan i annog pobl i ddod yn fwy ymwybodol o ddiffibrilwyr a’u gallu i achub bywydau”.

Dywedodd Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol y bwrdd iechyd: “Rwy’n falch iawn o glywed mai ni yw’r ail fwrdd iechyd yng Nghymru i ymgysylltu ag Achub Bywyd Cymru i ddarparu diffibrilwyr mynediad cyhoeddus. Bydd hwn yn ddatblygiad gwych i iechyd ein cymunedau ac yn achub bywydau. Hoffwn ddiolch yn bersonol i Achub Bywyd Cymru, yr holl unigolion hynny sydd wedi rhoi a hefyd y gwarcheidwaid gwirfoddol.”

I ddod o hyd i adnoddau a hyfforddiant ar sut i achub bywyd, ewch i: Achub Bywyd Cymru - GIG Cymru Gweithrediaeth (agor mewn dolen newydd)