O ddydd Iau 11 Mawrth 2021, gall pobl yn Aberystwyth sydd â symptomau COVID19 gael mynediad at brawf (trwy apwyntiad o flaen llaw) mewn cyfleusterau gyrru-drwodd neu gerdded-mewn ar safle Canolfan Rheidol.
Mae cyfleuster cerdded-mewn y dref, a oedd yn flaenorol oddi ar Ffordd Penglais, yn adleoli i Ganolfan Rheidol o 11 Mawrth. Bydd hyn yn darparu safle mwy cynaliadwy ar gyfer y cyfleuster profi dros y misoedd nesaf, yn cynnal lefel bresennol y ddarpariaeth ac yn sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio'r cyfleuster naill ai mewn car neu ar droed.
Bydd profion yn cael eu cynnal yn yr un modd ac mae bwcio yn parhau trwy borth ar-lein y DU neu trwy ffonio 119.
Sylwch y gall rhai grwpiau o gleifion gael eu gwahodd gan y Bwrdd Iechyd i gael prawf cyn cael rhai triniaethau. Mewn achosion o'r fath bydd y profion mewn lleoliad gwahanol, a fydd yn cael ei gadarnhau yn y gwahoddiad.
Meddai Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae ein capasiti profi yn parhau i gael ei adolygu’n gyson gan y bwrdd iechyd ac rydym yn falch o allu parhau â’r lefel hon o ddarpariaeth brofi ar gyfer y gymuned, gan sicrhau bod pobl yn dal i allu cael prawf yn lleol pan fydd ei angen arnynt.
“Rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Aberystwyth am ddarparu’r hen safle profi oddi ar Ffordd Penglais ac am y gefnogaeth barhaus i’n hymateb ehangach i’r pandemig.
“Rydym yn gwerthfawrogi’r ymdrechion y mae pobl yn eu gwneud i helpu i amddiffyn ein gilydd yn ystod yr amser heriol hwn. Rwy’n annog pawb i aros yn wyliadwrus a dilyn y rheolau, gan gynnwys gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen, cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo’n rheolaidd, neu ddefnyddio glanweithydd dwylo os nad yw golchi dwylo yn bosib, i’n helpu i fyw a gweithio ochr yn ochr â’r firws wrth reoli ei ymlediad."
Dylai unrhyw un sydd â symptomau’r firws (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli/newid blas neu arogl) neu symptomau eraill tebyg i ffliw (cur pen parhaus, blinder, poenau cyffredinol) hunan-ynysu a bwcio prawf cyn gynted â phosib trwy borth ar-lein y DU yn www.gov.wales/coronavirus.
Gwnewch yn siwr wrth fwcio eich prawf eich bod yn dewis yr opsiwn sydd ei angen arnoch (er enghraifft, archebu’r opsiwn cerdded-mewn dim ond os nad ydych yn gallu teithio yn eich cerbyd eich hun i'r cyfleuster gyrru-drwodd). Os ydych yn mynychu'r ganolfan cerdded-mewn mae'n rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr prifysgol sydd â symptomau COVID-19, wrth fwcio prawf, ddarparu'r cyfeiriad lleol dros dro y maent yn byw ynddo tra'u bod yn fyfyrwyr ym mhrifysgol Aberystwyth, ac nid eu cyfeiriad cartref arferol.
Peidiwch â mynychu heb wneud apwyntiad yn gyntaf gan na fydd yn bosib eich gweld heb apwyntiad. Dilynwch ganllawiau hunan-ynysu diweddaraf Llywodraeth Cymru.
Diolch am helpu i ddiogelu Ceredigion.