31 Ionawr 2023
Yn dilyn rhaglen beilot lwyddiannus, a gynlluniwyd i wella iechyd meddwl a lleihau teimladau o drallod i blant a phobl ifanc sy’n hysbys i’w Wasanaeth Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed (SCAMHS), mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn falch iawn o gyhoeddi bod cyllid wedi'i sicrhau am flwyddyn arall ac mae atgyfeiriadau ar gyfer Hwb Celfyddydol 2 bellach ar agor.
Roedd Hwb Celfyddydol 1 yn gynllun peilot a ddatblygwyd mewn ymateb i’r niferoedd cynyddol o blant a phobl ifanc sy’n ceisio cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl gan SCAMHS.
Mae'r rhaglen ar gael i blant a phobl ifanc sy'n hysbys i SCAMHS ac sy'n aros am ymyriad sy'n byw gydag anhwylder bwyta, hwyliau isel, pryder a/neu iselder ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.
I fod yn gymwys i wneud cais, mae'n rhaid i chi fod yn hysbys i SCAMHS (12-17 oed) a naill ai'n aros am neu'n cael cymorth gan eich tîm iechyd meddwl sylfaenol lleol. Mae'r fenter yn defnyddio ymgysylltu â'r celfyddydau ac mae wedi'i seilio ar y corff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos bod gan y celfyddydau ran allweddol i’w chwarae mewn gofal iechyd, yn enwedig o ran gwella lles, hunanhyder, hunan-barch a hunanfynegiant.
Dywedodd Katie O’Shea, Arweinydd Therapïau Seicolegol SCAMHS ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae adroddiadau’n dangos gwerth a rôl bwerus y celfyddydau creadigol wrth gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc.
“Mae prosiect Hwb Celfyddydol yn cynnig profiad newydd i bobl ifanc o ymgysylltu â SCAMHS ac yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc weithio ochr yn ochr â’n partneriaid celfyddydol ar draws y tair sir i archwilio eu hunaniaeth, meithrin dyheadau cadarnhaol a datblygu’r gwytnwch i reoli amgylchiadau bywyd heriol, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau.”
Ychwanegodd Angela Lodwick, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIP Hywel Dda: “Mae hwn wedi bod yn gydweithrediad cyffrous rhwng SCAMHS a’r tîm Celfyddydau mewn Iechyd, gan wella ansawdd a darpariaeth cymorth therapiwtig i bobl ifanc ac edrychwn ymlaen at ddatblygiadau yn y dyfodol.”
Mae’r bwrdd iechyd wedi comisiynu tri phartner celfyddydol; Celfyddydau Span yn Sir Benfro; People Speak Up yn Sir Gaerfyrddin; a Theatr Byd Bychan yng Ngheredigion, i gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau creadigol dan arweiniad artistiaid gan gynnwys animeiddio, celf cyfrwng cymysg a symudiad o’r awyr.
Roedd y canfyddiadau’n awgrymu bod ymgysylltu â gweithgareddau creadigol a arweinir gan artistiaid wedi helpu’r plant a’r bobl ifanc a gymerodd ran i:
• gwella lles a lleihau teimladau o drallod
• datblygu sgiliau ymdopi creadigol am oes
• creu man diogel i ganiatáu i adferiad ddechrau
• hybu gwydnwch a sgiliau ymdopi a chynyddu ymdeimlad o rymuso.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am Hwb Celfyddydol 2, siaradwch â’ch clinigwr iechyd meddwl sylfaenol presennol. Os ydych yn aros am gymorth gan eich tîm iechyd meddwl sylfaenol lleol, cysylltwch â Katie O’Shea, Arweinydd ar gyfer therapïau seicolegol SCAMHS ar 01267 674450.
I ddarganfod mwy gwyliwch:
Hwb Celfyddydol yn Gymraeg - https://youtu.be/jUkRkTGN1Sk (agor yn dolen Newydd)
Hwb Celfyddydol yn Saesneg - https://youtu.be/V8wgsmW0t54 (agor yn dolen Newydd)