Mai 15 2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi dechrau’r broses ymgysylltu â’r cyhoedd a fydd yn pennu dyfodol gwasanaethau Meddygon Teulu i gleifion Meddygfa Tyddewi yn Sir Benfro.
Mae hyn yn dilyn penderfyniad y meddyg teulu i ildio cytundeb y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, a ddaw i rym ar 31 Hydref 2024.
Mae nifer o ffyrdd y gall cleifion sydd wedi cofrestru gyda Meddygfa Tyddewi ddweud eu dweud am ddyfodol gwasanaethau, gan gynnwys digwyddiad galw heibio yn Neuadd y Ddinas Tyddewi ddydd Gwener 14 Mehefin 2024 lle bydd staff o dîm Gofal Sylfaenol y Bwrdd Iechyd ar gael i wrando ar unrhyw bryderon neu faterion a darparu gwybodaeth berthnasol rhwng 2pm a 7pm.
Bydd y Bwrdd Iechyd yn ysgrifennu at bob claf ym Meddygfa Tyddewi am y gwahanol ffyrdd y gallant rannu eu barn.
Dywedodd Rhian Bond, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Sylfaenol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem dawelu meddwl y cleifion ein bod yn gweithio i ddod o hyd i ateb cynaliadwy ar gyfer sut y gellir parhau i ddarparu gwasanaethau’n lleol i gleifion ar ôl mis Hydref. Rydym yn deall y gall unrhyw newid i wasanaethau achosi pryder ac rydym yn awyddus i ddysgu gan gleifion beth sydd bwysicaf iddynt am wasanaeth mor bwysig yn yr ardal.”
Ar gyfer cleifion cofrestredig mae hyn yn golygu y bydd gofal yn parhau i gael ei ddarparu fel arfer gan yr un tîm yn y Practis tan ddiwedd mis Hydref 2024. Cynghorir cleifion i barhau i gofrestru gyda'r Practis tra bod cynlluniau tymor hwy yn cael eu datblygu.
Yn y cyfamser, bydd cleifion yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar sut y gellir parhau i ddarparu'r gwasanaethau hyn ar ôl diwedd mis Hydref.
Parhaodd Ms Bond: “Bydd barn y gymuned leol a chleifion yn cael ei chasglu cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud am y ddarpariaeth hirdymor ar gyfer y gwasanaeth. Bydd cyfleoedd i siarad â’r Bwrdd Iechyd yn y digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd ddydd Gwener, 14 Mehefin.”
“Mae’n bwysig i ni ein bod yn gweithio’n agos gyda phartneriaid gan gynnwys Llais a’r Gweithgor, a sefydlwyd y llynedd ac sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r cymunedau a gwmpesir gan feddygfeydd teulu Tyddewi a Solfach.”
“Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y gefnogaeth barhaus a roddir gan y gymuned i’r tîm ym Meddygfa Tyddewi trwy gydol y cyfnod heriol hwn.”
“Cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud, mae’r Bwrdd Iechyd eisiau gwrando ar farn a phryderon cleifion. Bydd y broses hon yn rhedeg rhwng nawr a 19 Mehefin 2024 ac rydym yn awyddus i glywed gan gynifer o gleifion â phosibl.”
Gall aelodau’r cyhoedd ddweud eu dweud drwy:
• Mynychu digwyddiad galw heibio ddydd Gwener 14 Mehefin 2024, rhwng 2pm a 7pm (galw heibio unrhyw bryd) yn Neuadd y Ddinas Dewi Sant (Y Stryd Fawr, Tyddewi, Sir Benfro, SA62 6SD
• Cwblhau holiadur: Bydd y bwrdd iechyd yn postio'r holiadur i bob claf neu mae blychau casglu ar gyfer holiaduron ar gael ym Meddygfa Tyddewi. Gall cleifion hefyd eu dychwelyd trwy bostio i FREEPOST HYWEL DDA UNIVERSITY HEALTH BOARD
• Ffonio 0300 303 8322 a dewis opsiwn 5 ar gyfer ‘gwasanaethau eraill’.
• E-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk
• Ymateb i'r holiadur ar-lein a gynhaliwyd ar wefan Dweud eich Dweud Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk/meddygfa-dewi-sant-dyfodol-gwasanaethau-i-gleifion-cofrestredig (Agor mewn tab newydd)
• Rhoi adborth yn uniongyrchol i Llais yn Swît 5, Llawr 1af, Tŷ Myrddin, Heol Hen Orsaf, Caerfyrddin SA31 1LP, ffonio 01646 697610 neu anfon e-bost at westwalesenquiries@llaiscymru.org
Mae Llais, sefydliad llais y claf yng Nghymru, yn cefnogi’r broses ymgysylltu a bydd yn bresennol yn y digwyddiad cyhoeddus, ochr yn ochr ag aelodau o dîm Gofal Sylfaenol Hywel Dda.
DIWEDD