14 Tachwedd 2022
Mae’n bleser gan Dîm Celfyddydau mewn Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyhoeddi y bydd rhaglen beilot dawns er mwyn iechyd yn cael ei chynnig i gleifion â salwch cronig a/neu broblemau symudedd.
Bydd y prosiect yn cael ei ragnodi i gleifion gan y tîm amlddisgyblaethol cymunedol yn ardal Tywi Taf Gyda’n Gilydd, gan ddefnyddio cyllid clwstwr meddygon teulu. Bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno gan sefydliad celfyddydol profiadol lleol gyda hyfforddiant mewn ymyriadau dawns ar gyfer iechyd a lles.
Mae’r tîm amlddisgyblaethol sy’n gweithio gyda chleifion yng nghlwstwr Tywi Taf Gyda’n Gilydd wedi hen ennill ei blwyf ac yn llwyddo i nodi cleifion sydd angen cymorth ychwanegol. Yn aml, mae gan gleifion a nodwyd cyd-forbidrwydd, eiddilwch, anghenion iechyd corfforol ac emosiynol cymhleth, ac arwahanrwydd cymdeithasol.
Mae rhaglenni dawns er mwyn iechyd wedi'u gwerthuso a dangoswyd eu bod yn gwella cryfder a symudedd ac yn atal cwympiadau. Mae effeithiau cymdeithasol a seicolegol cadarnhaol hefyd yn amlwg.
Mae'r prosiect hwn yn gobeithio gwella iechyd a lles, dangos agwedd ragweithiol ac ataliol at salwch ac annog hunanreoli cyflyrau cronig. Gan gydweithio mewn ffordd integredig gyda chleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r gymuned, mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd yn dda â strategaeth bwrdd iechyd Hywel Dda ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru iachach.
Dywedodd Kerry Phillips, Arweinydd Meddygon Teulu ar gyfer clwstwr Tywi/Taf: “Mae’r clwstwr yn falch iawn o gydweithio ar y prosiect hwn, gan ddarparu sesiynau hwyliog a rhyngweithiol i wella iechyd a lles yn ardal Tywi/Taf. Mae hwn yn ychwanegiad ardderchog at ein hystod o brosiectau, a gobeithiwn y bydd y boblogaeth yn manteisio ar y rhaglen ac yn profi’r manteision cymdeithasol a seicolegol cadarnhaol sydd i’w hennill.”
Mae tîm y celfyddydau mewn iechyd yn gobeithio datblygu a thyfu’r potensial ar gyfer celfyddydau ar bresgripsiwn ar draws Hywel Dda, gyda’r nod o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd meddwl a lles i gymunedau. Os hoffech chi gael gwybod mwy neu gymryd rhan, cysylltwch â'n Cydlynwyr Celfyddydau mewn Iechyd Kathryn.lambert@wales.nhs.uk neu Catherine.Jenkins5@wales.nhs.uk