07 Medi 2023
Mae dau dîm Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn dathlu ar ôl cyrraedd rownd derfynol Gwobrau GIG Cymru eleni.
Mae’r gwobrau cenedlaethol hyn yn cydnabod sut y gall syniadau arloesol ar gyfer newid wneud gwahaniaeth sylweddol i’r cleifion sydd angen gofal, y sefydliadau sy’n darparu gofal, a’r system iechyd a gofal yn ei chyfanrwydd.
Mae’r ddau brosiect gwella iechyd lleol ar y rhestr fer yn y categorïau Darparu Gwasanaethau mewn Partneriaeth ar draws GIG Cymru a Gwella Diogelwch Cleifion.
Ar y rhestr fer yn y categori Darparu Gwasanaethau mewn Partneriaeth ar draws GIG Cymru mae’r hyb Profion Imiwnocemegol Ysgarthol (FIT), sy’n rheoli profion fel y gellir blaenoriaethu a rheoli’r rhai sydd â risg uchel o ganser y colon a’r rhefr mewn modd amserol, diogel ac effeithiol.
Mae sefydlu canolbwynt FIT a datblygu llwybr atgyfeirio FIT symlach o ganlyniad i ymdrechion cydweithredol rhwng rhanddeiliaid lluosog, gan gynnwys uwch gynrychiolwyr clinigol o ofal sylfaenol ac eilaidd, a thimau gwasanaeth perthnasol, a chymorth a ddarperir gan Grŵp Cydweithredol Iechyd a Digidol GIG Cymru a chydweithwyr Iechyd a Gofal Cymru.
Dywedodd Dr. Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol, Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau GIG Cymru 2023. Roedd cyflawni’r llwybr yn ymdrech gydweithredol enfawr, a oedd yn cynnwys unigolion ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd gyda mewnbwn gan y byrddau iechyd ehangach a thimau GIG Cymru.
“Bydd taith y claf yn cael ei symleiddio, fel bod y rhai sydd â’r angen mwyaf brys yn cael eu blaenoriaethu. O ganlyniad, mae adnoddau’n cael eu defnyddio’n fwy effeithiol, mae amseroedd aros yn gwella ac mae cleifion ar y Llwybr Canser Sengl yn cael ymchwiliadau amserol gyda’r oedi lleiaf posibl.”
Yn y categori Gwella Diogelwch Cleifion, mae ein cystadleuydd yn y rownd derfynol yn canolbwyntio ar newid diwylliant y gweithle ac ymgysylltu amlddisgyblaethol â risgiau clinigol a llywodraethu mamolaeth a newyddenedigol.
Cyd-gynhyrchodd y tîm raglen gynaliadwy yn canolbwyntio ar ddysgu systemau, gan gynnwys y defnydd o offer hyfforddi rhyngweithiol ac arloesol i ymgorffori themâu a thueddiadau allweddol i wella cyfraddau adrodd am ddigwyddiadau ac annog ymgysylltiad amlddisgyblaethol.
Dywedodd Cerian Llewelyn, Bydwraig Arweiniol ar gyfer Risg Clinigol a Llywodraethu: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr GIG Cymru; gan gydnabod pwysigrwydd defnyddio digwyddiadau clinigol a phrofiadau cleifion i wella ein systemau a chefnogi dysgu a rennir ar draws ein gwasanaeth.”
Ychwanegodd Dr Tipswalo Day, Obstetrydd Ymgynghorol: “Mae’r symudiad tuag at ddiwylliant mwy cadarnhaol ac ymgysylltu gwell â dysgu amlddisgyblaethol wedi ein galluogi i wella ein canlyniadau clinigol yn sylweddol, gyda gostyngiadau amlwg yn nifer y babanod sydd angen dadebru adeg eu geni, babanod sy’n cael anaf i’r ymennydd ar enedigaeth a marw-enedigaeth."
Llongyfarchodd Steve Moore, Prif Weithredwr BIP Hywel Dda y timau: “Mae’n wych gweld dau o’n timau o staff a phartneriaid yn cael eu cydnabod am eu gwaith ysbrydoledig gyda’i gilydd.
“Mae ein cymuned iechyd a gofal yng ngorllewin Cymru yn parhau i ymdrechu i wella arferion gofal iechyd a gofal cleifion.
“Pob lwc i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.”
Bydd y cam nesaf yn gweld beirniaid yn cymryd rhan mewn ymweliadau rhithwir gyda phob un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol i ddarganfod mwy am eu prosiectau gwella.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni yng Nghaerdydd, ar 26 Hydref 2023.