[Datganiad i'r wasg Cyngor Sir Caerfyrddin - Dydd Gwener 13 Rhagfyr 2024]
Mae Bouygues UK a Chyngor Sir Gâr yn trawsnewid yr hen siop fanwerthu yn hwb iechyd, lles, addysg a hamdden o’r radd flaenaf.
Cynhaliodd Cyngor Sir Gâr a Bouygues UK, y prif gontractwr, ddigwyddiad carreg filltir yn Hwb Iechyd a Lles newydd Caerfyrddin, a fydd yn darparu amrywiaeth o gyfleusterau i’r gymuned o dan yr un to.
Manteisiodd y gwesteion, gan gynnwys aelodau o Lywodraeth Cymru, ar y cyfle i weld drostynt eu hunain hynt y gwaith o ail-osod hen siop Debenhams yn Rhodfa Santes Catrin. Pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd trigolion Sir Gaerfyrddin yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd cymunedol sy'n cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Ochr yn ochr â gwasanaethau iechyd a lles, bydd yr adeilad ar ei newydd wedd yn gweithio mewn partneriaeth ag Actif Sport and Leisure i hwyluso campfa 24 awr newydd, a fydd yn cynnwys offer o’r radd flaenaf, ac ystafelloedd ffitrwydd hyblyg ar gyfer sesiynau ymarfer grŵp ac unigol.
Bydd Cyngor Sir Gâr hefyd yn cyflwyno darpariaeth amser hamdden unigryw ar gyfer yr ardal, gyda chanolfan adloniant teuluol o safon uchel a fydd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau y gall pobl hen ac ifanc eu mwynhau gyda'i gilydd, gan gynnwys golff antur dan do, chwarae meddal tref deganau, ceirt modur trydanol a TAG Active. Bydd y ganolfan adloniant hefyd yn gartref i gaffi ac ystafelloedd parti.
Mae’r prif gontractwr Bouygues UK yn defnyddio isgontractwyr lleol fel rhan o’i ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a sgiliau i bobl leol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Dechreuodd y gwaith ym mis Gorffennaf ac mae’n mynd rhagddo’n dda, gyda draeniau mewnol wedi’u gosod gyda chast llawr gwaelod newydd, mae ffrâm ddur yr ystafell beiriannau ar ben y to wedi’i chwblhau ac mae gwaith dur eilaidd ar bob llawr ar gyfer gwagleoedd to, sgriniau gwydrog a phibellau codi’n parhau ar hyn o bryd. Mae gwaith mewnol hefyd wedi dechrau gyda leinin sych a gwaith mecanyddol a thrydanol ar lefel un a dau.
Fel rhan o ddarpariaeth gwerth cymdeithasol Bouygues UK, mae’r contractwr yn ymgysylltu ag ysgolion lleol, grwpiau cymunedol ac yn gweithio gyda phartneriaid cyflogaeth lleol i gynnig cyfleoedd cyflogaeth. Mae hefyd wedi rhoi coeden Nadolig, sy’n cael ei harddangos yn Stryd Fawr Caerfyrddin ar gyfer tymor y Nadolig.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cymru a’r De Orllewin, John Boughton:
Mae’r gwaith o drawsnewid yr hen siop adrannol hon, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Gâr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn dod yn ei flaen yn arbennig o dda, ac mae’n wych rhoi cyfle i'n gwesteion heddiw ei weld drostyn nhw eu hunain.
Trwy adnewyddu hen siop Debenhams yn lle ei hailadeiladu, rydym nid yn unig yn adfywio bron 8,000 metr sgwâr o ofod masnachol yng nghanol y dref, ond rydyn ni hefyd yn glynu’n ffyddlon wrth ymrwymiad Bouygues UK i gynaliadwyedd amgylcheddol. Wrth inni symud ymlaen gyda’r Hwb ochr yn ochr â’n cadwyn gyflenwi leol, bydd y gofod hwn yn dod yn ganolbwynt hanfodol a hygyrch ar gyfer addysg, gofal iechyd a hamdden yn y gymuned.
Unwaith y bydd ar agor i’r cyhoedd, disgwylir i’r Hwb gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref, gan gryfhau gwydnwch economaidd ar gyfer y masnachwyr a manwerthwyr lleol. Yn sgil cau’r siop adrannol ym mis Mai 2021, cafwyd effaith sylweddol ar fasnach yng nghanol y dref, ond nod cyflwyno’r Hwb arloesol, gyda phopeth mewn un man—sef y cyntaf o’i fath yn Sir Gaerfyrddin—yw gwrthdroi’r duedd honno. Drwy gynnig ystod eang o wasanaethau cyhoeddus a hamdden o dan yr un to, y gobaith yw y bydd yr Hwb yn denu mwy o ymwelwyr o bob rhan o’r rhanbarth i ganol y dref.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Gâr, y Cynghorydd Darren Price:
Roedd yn fraint cael mynd i safle adeiladu’r Hwb Iechyd a Lles. Roeddwn i’n gallu gweld â’m llygaid fy hun y gwaith caled a wnaed gan bawb sy’n gweithio ar y datblygiad.
Mae Bouygues UK a Chyngor Sir Gâr yn ymroddedig iawn i gefnogi’r gadwyn gyflenwi leol ar bob cam o’r prosiect, ochr yn ochr ag ymgysylltu â phobl leol ynghylch yr hyn y gall yr Hwb Iechyd a Lles ei gynnig iddyn nhw unwaith y bydd ar agor. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi ymwneud â’r gwaith hyd yma, a phob lwc ar gyfer y camau nesaf.
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy
Bydd y prosiect hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r gymuned ac o fudd i ystod eang o bobl. Bydd yn rhoi hwb i iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol, gan ddarparu gwasanaethau iechyd gan gynnwys iechyd menywod, hamdden, adloniant, ffitrwydd a chyfleoedd dysgu. Rwy’n falch ein bod wedi gallu cefnogi’r prosiect hwn gyda dros £10m o gyllid o’r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso (IRCF), edrychaf ymlaen at ei weld yn mynd rhagddo.
Dywedodd Neil Wooding, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
Rydym wrth ein bodd bod pobl leol wedi cael y cyfle i weld, yn bersonol, y cynnydd sy’n cael ei wneud gyda datblygiad yr Hwb, ac i siarad yn uniongyrchol â staff y prosiect am y cyfleusterau y bydd yn eu cynnig.
Rydym yn hyderus y bydd y gymuned leol yn elwa o’r ystod eang o wasanaethau iechyd a lles sydd wedi’u cynllunio ar gyfer yr Hwb, ac edrychwn ymlaen at weithio ar y cyd â’n partneriaid i weld hynny’n dwyn ffrwyth yn y blynyddoedd i ddod.
Ariennir y prosiect hwn mewn partneriaeth â £7 miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy Raglen y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fel rhan o Raglen Gyfalaf ehangach Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru, a hefyd cyllid o £18m gan Lywodraeth y DU.
Dywedodd yr Athro Gareth Davies, Deon y Sefydliad Rheolaeth ac Iechyd ychwanegodd:
Mae'n wych gweld heddiw y cynnydd sydd wedi cael ei wneud ar yr Hwb Iechyd a Llesiant. Bydd y fenter yn galluogi'r brifysgol i ddatblygu ein cynnig i'r gymuned a darparu cyfleoedd i'n myfyrwyr, yn enwedig y rhai sy'n astudio ein rhaglenni chwaraeon, iechyd a llesiant. Mae hon yn fenter ardderchog sy'n dod â chyfleoedd addysgol, diwylliannol a hamdden at ei gilydd o dan yr un to i ddenu rhagor o bobl i ganol y dref. Rydym yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y datblygiad hwn er budd trigolion a busnesau”.