Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu arloeswr o'r gorllewin yng ngwobrau canser cyntaf Cymru

20 Mehefin 2022

Mae cwmni Moondance Cancer Initiative wedi cydnabod unigolyn o’r gorllewin am eu cyflawniadau rhagorol mewn gwasanaethau canser yng ngwobrau canser cyntaf Cymru.

Mae Dr Rachel Gemine o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi’i henwi fel enillydd gwobr Arweinydd Newydd ar gyfer y categori rheoli a gweinyddu yng Ngwobrau Canser Moondance.

Fel Dirprwy Bennaeth Sefydliad TriTech, sy’n cynnig gwasanaethau mewn datrysiadau gofal iechyd arloesol, ac Uwch Reolwr Grantiau ac Arloesedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, dyfarnwyd y wobr i Rachel am ei harweinyddiaeth glodwiw ar geisiadau grant a’i rheolaeth o waith ymchwil a gwerthusiadau ar gyfer y bwrdd iechyd. Ymysg ei chyflawniadau diweddar, mae Dr Gemine wedi sicrhau £200,000 gan gwmni Moondance Cancer Initiative i gefnogi amrywiaeth o brosiectau arloesol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Nod Gwobrau Canser Moondance yw dathlu a thynnu sylw at bobl ar draws y gwasanaeth iechyd a’i bartneriaid sydd wedi cynnal ac arloesi gwasanaethau canser er gwaetha’r amgylchiadau eithriadol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.


Wrth drafod y wobr, meddai Dr Rachel Gemine: “Rwyf wedi fy syfrdanu ac wrth fy modd fy mod wedi ennill y wobr hon. Cyflawniad a rennir gyda phawb yn Sefydliad TriTech a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Diolch i Fenter Canser Moondance ac i bawb sy’n arloesi yn erbyn canser.”

Cafodd yr enillwyr eleni eu dewis gan banel o feirniaid o arbenigwyr ac arweinwyr ym maes gofal iechyd gan gynnwys: Yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cymru; yr Athro Arglwydd Darzi, Cyfarwyddwr Sefydliad Arloesedd Iechyd Byd-eang Coleg Imperial; Claire Birchall, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Canser Cymru a'r Athro Jared Torkington, Cyfarwyddwr Clinigol Moondance Cancer Initiative.

Mae cwmni Moondance Cancer Initiative yn bodoli i ganfod, ariannu a hybu pobl wych a syniadau dewr er mwyn gosod Cymru ar flaen y gad o ran goroesi canser. Ar hyn o bryd, mae 18 o brosiectau gweithredol yn cael eu hariannu gan y fenter ledled Cymru gan gynnwys ehangu'r Ganolfan Diagnosis Cyflym ym Mae Abertawe a chyflwyno endosgopi trawsdrwynol.

Wrth sôn am Wobrau Canser Moondance, meddai Dr Megan Mathias, Prif Weithredwr cwmni Moondance Cancer Initiative: “Cafodd y gwobrau eu creu i ddathlu a diolch i’r bobl sydd wedi rhoi o’u hamser i wella ac arloesi llwybrau canfod, gwneud diagnosis a thrin canser ar draws gwasanaethau canser Cymru. Drwy daflu goleuni ar y bobl yma, rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni helpu i ysbrydoli atebion y dyfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn goroesi. Rydyn ni mor falch bod cymaint o bobl o bob maes gofal iechyd yng Nghymru wedi dod i ddathlu gyda ni.

“Mae’r gwobrau yma’n dangos bod gwelliant yn bosib ac yn digwydd ar draws gwasanaethau canser Cymru. Yn Moondance, rydyn ni’n canfod, yn ariannu ac yn annog pobl wych sydd â syniadau dewr i wella canlyniadau canser i Gymru. Os oes gennych chi, neu eich tîm, ddiddordeb mewn trafod syniad, cysylltwch â ni, bydden ni wrth ein boddau yn clywed gennych.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://moondance-cancer.wales/ (agor yn ddolen newydd)