Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu 20fed Pen-blwydd y Gymuned Ffilipinaidd yn Hywel Dda

23 Awst 2021

Yr wythnos hon 23-27, 2021, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn falch o fod yn dathlu 20 mlynedd ers cyrraeddodd ein haelodau staff Ffilipinaidd cyntaf.  

Trwy gydol yr wythnos, byddwn yn tynnu sylw at y diwylliant cyfoethog y mae’r gymuned Ffilipinaidd yn ei rhoi i'n Bwrdd Iechyd. Bydd staff yn rhannu eu straeon personol, ffotograffau ac yn rhannu eu ryseitiau ar y safle yn ein ffreuturau gyda’r gymuned. 

Rydyn ni’n nodi dechrau’r wythnos trwy dangos ein balchder a chodi baner Ynysoedd Philippines yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.   

Dywedodd Karen Barker, Pennaeth Nyrsio Gofal Rhestredig yn BIP Hywel Dda: “Mae’n fraint hyfryd cael dathlu 20fed Pen-blwydd ein haelodau staff Ffilipinaidd yn Hywel Dda.

“Es i ar un o’r teithiau recriwtio cyntaf i Ynysoedd Philippines 20 mlynedd yn ôl, felly mae gweld y baneri’n cael eu codi ac i ddathlu’r gymuned hon yn fy llenwi â balchder aruthrol. 

“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn, ar ran y bwrdd iechyd cyfan, am yr ymroddiad a’r ymrwymiad y mae’r Gymuned Ffilipinaidd yn Hywel Dda wedi’u rhoi trwy gydol yr 20 mlynedd diwethaf.”

Dywedodd Jane Milewska, Cadeirydd y Gymuned Ffilipinaidd yng Nghaerfyrddin a Nyrs yn Ysbyty Glangwili: ‘Ar rhan y gymuned Ffilipiniadd yng Nghaerfyrddin, hoffwn rhoi diolch enfawr am yr holl cefnogaeth ac am wneud i ni deilmo’n mor groeso yn Hywel Dda.

‘Wrth i ni dathlu’r 20fed pen-blwydd ers recriwtio nyrsys Ffilipinaidd gyntaf, mae’n rhiad imi dweud eich bod chi wedi wneud hynny’n teimlo fel adref i ni gyd, diolch yn fawr.’

Ychwanegodd Helen Sullivan, Pennaeth Partneriaethau, Amrywiaeth a Chynhwysiant: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o ddathlu carreg filltir mor bwysig a dweud diolch i'r gymuned Ffilipinaidd ac am eu cyfraniadau sylweddol fel ein cydweithwyr a thrigolion ein tair sir.  

“Fel Bwrdd Iechyd, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i amrywiaeth a chynhwysiant a chydnabod angerdd ac ymrwymiad ein gwerthu amrywiol.”