Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Ansawdd Nyrsio a Phrofiad Cleifion: “Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru eu canllawiau ar ymweld ag ysbytai ledled GIG Cymru yn ystod y pandemig Coronafirws parhaus, sy’n cynnwys pobl sy’n mynd gyda chleifion i apwyntiadau fel sganiau. Cyn y gallwn godi ein cyfyngiadau ymweld cyfredol, rhaid inni sicrhau y gallwn gynnal pellter cymdeithasol i gadw pawb mor ddiogel â phosibl. Rydym eisoes yn gweithio'n galed i roi'r trefniadau newydd a amlinellir yn y canllawiau ar waith yn briodol ac yn ddiogel, fodd bynnag, ni fydd y rhain ar waith yn llawn erbyn dydd Llun 20 Gorffennaf gan fod yn rhaid i bob adran ar draws y bwrdd iechyd gynnal asesiadau risg unigol.
“Rydym am sicrhau pobl ein bod yn gweithio ar hyn ar frys a byddwn yn cyflwyno'r newidiadau hyn fesul cam dros yr wythnosau nesaf. Yn y cyfamser, rydym yn gofyn i fenywod barhau i fynychu eu hapwyntiadau a drefnwyd ar ein pennau ein hunain oherwydd yn anffodus ni allwn ganiatáu i bartneriaid nac eraill a enwebwyd ddod gyda nhw. Cynghorir menywod ag anghenion penodol i gysylltu â'r clinig cynenedigol trwy switsfwrdd yr ysbyty.
“Rydym yn gwerthfawrogi ei fod yn gyfnod anodd i bawb a byddwn yn parhau i gefnogi llesiant ein cleifion / defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd a'u hanwyliaid yn y ffordd orau y gallwn. Diolch i chi am eich amynedd, eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad parhaus yn ystod yr amser hwn. "