Neidio i'r prif gynnwy

Darparwr orthodonteg newydd i'n drigolion

Byddwn yn cysylltu â chi i'ch gwneud yn ymwybodol y bydd y rhai sydd angen gwasanaethau orthodonteg yn derbyn eu triniaeth trwy ddarparwr newydd o Ebrill 1 2020.

Ni fydd ein darparwr gwasanaethau orthodonteg presennol, Y Ganolfan Orthodonteg yng Nghaerfyrddin, bellach yn darparu’r gwasanaethau GIG hyn ar ôl Mawrth 31 2020. Fodd bynnag, mae’r bwrdd iechyd wedi sicrhau gwasanaethau orthodonteg gyda thair practis orthodonteg newydd yn Noc Penfro, Caerfyrddin ac Abertawe.

Mae'r contractau newydd hyn yn rhoi cyfle i gael gwell mynediad at wasanaethau orthodonteg i'n cleifion.

Os oes angen y gwasanaeth arbenigol hwn arnoch byddwch yn cael eich dynodi i'r practis agosaf at eich cartref.

Yr Clinigau yw:

  • Quayside Orthodontics – Doc Penfro
  • Quayside Orthodontics – Caerfyrddin
  • Neat Teeth – Abertawe

Hoffem eich sicrhau bod gyda ni'r gyfrifoldeb i wneud yn siwr y bydd unrhyw glaf sy'n cael triniaeth ar hyn o bryd yn parhau i dderbyn gofal orthodonteg yn un o'r tair practis.

Byddwn yn cysylltu â phob claf yn ysgrifenedig sydd ar hyn o bryd yn derbyn gofal gyda'r Ganolfan Orthodonteg i drafod trosglwyddo eich gofal.

Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymuned a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae darparu gwasanaethau orthodonteg mewn tri lleoliad ar gyfer preswylwyr Hywel Dda yn caniatáu gwell mynediad i wasanaethau i gleifion sy'n agosach at eu cartrefi.

“Yn ogystal â hyn mae’r bwrdd iechyd wedi buddsoddi cyllid ychwanegol i wella amseroedd aros.”

Os ydych yn bryderus, cysylltwch â 01267 229696 i adael neges peiriant ateb a bydd aelod o'r Tîm Gwasanaethau Deintyddol yn ymateb i hyn.