Rydym yn cynyddu ein capasiti profi coronafirws yng ngorllewin Cymru wrth i'r gwaith ddechrau y penwythnos hwn ar uned brofi gyrru drwodd newydd ar gyfer gweithwyr allweddol ar safle maes y sioe yng Nghaerfyrddin.
Bydd yr uned, a fydd yn weithredol erbyn dydd Iau (30 Ebrill), yn cefnogi cyfleusterau profi sydd eisoes yn darparu profion i staff y GIG a gweithwyr allweddol fel y rheini gan yr heddlu, gwasanaethau tân ac ambiwlans; cartrefi gofal a staff critigol eraill yr awdurdod lleol.
Mae cyfleusterau profi eraill ar gael ledled ardal gorllewin Cymru yn Aberystwyth, Aberteifi, Hwlffordd a Llanelli, ac mae ystyriaeth hefyd yn cael ei roi i gryfhau capasiti profi ymhellach yng Ngheredigion, Sir Benfro a Powys.
Esboniodd Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Alison Shakeshaft: “Dyma gam nesaf ein hymateb i brofi a chefnogi ein gweithwyr allweddol mewn meysydd hanfodol o wasanaeth cyhoeddus.
“Mae gennym ni allu profi ym mhob un o dair sir ein dalgylch, yn ogystal â darparu profion cartref lle nad yw unigolion yn gallu cyrchu uned brofi e.e. ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal. Rydym yn gwasanaethu cymuned wledig ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud profion mor hygyrch â phosibl. Byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd eraill o ran cyd-gymorth a chefnogi pobl sy'n byw neu'n gweithio ar draws ein ffiniau."
Cyflwynwyd yr uned brofi ddiweddaraf hon yn dilyn partneriaeth rhwng Llywodraeth y DU a Deloitte i ddarparu profion coronafirws ledled y DU ar gyfer gweithwyr allweddol. Mae partneriaid allweddol ar gyfleuster gorllewin Cymru hefyd yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Sir Gaerfyrddin a phartneriaid eraill ar y Fforwm Gwydnwch Lleol.
Gallai'r cyfleuster, yn ogystal ag unedau profi eraill a dewisiadau amgen sy'n cael eu harchwilio gan Lywodraeth Cymru, gefnogi ehangu profion cymunedol yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd, rheolir profion ar gyfer gweithwyr allweddol yng ngorllewin Cymru trwy ganolfan orchymyn leol Prifysgol Hywel Dda lle darperir slot apwyntiad i weithwyr symptomatig ar gyfer eu hunain, a / neu os yw'n briodol, aelodau o'u cartrefi. Rhoddir cyfarwyddyd penodol iddynt ar pryd a sut i fynychu'r gwahanol gyfleusterau profi.
Gofynnir i bobl beidio â mynychu unrhyw gyfleusterau profi heb drefniant ymlaen llaw gyda'r bwrdd iechyd, oherwydd gallai hyn effeithio'n andwyol ar eu gallu i ddarparu profion i'r rhai sydd eu hangen.
Nid yw unedau profi yn peri risg i'r cyhoedd gan fod mesurau llym i atal heintiau ar waith i amddiffyn pobl, staff a'r gymuned ehangach.
Dywedodd Alison: “Rydym yn ddiolchgar am y bartneriaeth a sefydlwyd yn ein hardal a hefyd i’n cymunedau am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth barhaus yn ystod y pandemig hwn.”