Neidio i'r prif gynnwy

Cynnydd o 45% yn nifer y bobl sy'n ceisio cymorth iechyd meddwl ar ôl y cyfnod clo

Mae gwasanaeth iechyd meddwl a lles wedi gweld cynnydd o 45% yn nifer y bobl sy'n ceisio cymorth ar ôl i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio ledled y wlad.

Mae SilverCloud Cymru yn wasanaeth therapi ar-lein am ddim sydd wedi'i gynllunio i helpu pobl 16 oed a throsodd, sy'n profi gorbryder, iselder neu straen ysgafn i gymedrol, i reoli eu hiechyd meddwl a'u lles.

Nid oes angen cael eich cyfeirio gan feddyg teulu – gall pobl gofrestru a chael mynediad at y gwasanaeth GIG Cymru hwn unrhyw bryd, ac mewn unrhyw le, ar eu ffôn clyfar, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur.

Mae data newydd gan SilverCloud Cymru yn dangos bod 45% yn fwy o bobl wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth ar ôl i ysgolion a siopau manwerthu nad ydynt yn hanfodol ailagor ar 12 Ebrill o gymharu â'r pythefnos cyn hynny.

Mae'r un data hefyd yn dangos cynnydd o 14% yn nifer y bobl sy'n cofrestru i gael help i reoli gorbryder cymdeithasol ar ôl i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio ar 12 Ebrill.

Mae'r data'n dangos bodolaeth gorbryder yn dilyn y cyfyngiadau symud a bod angen help ar bobl i reoli'r newid o fywyd o dan y cyfyngiadau symud i fywyd 'normal'.

Mae 1 o bob 4 oedolyn yn cael trafferth gyda heriau iechyd meddwl, fel teimlo'n isel, yn bryderus neu dan straen. a rhagwelwyd y byddai'r galw am wasanaethau yn cynyddu oherwydd effaith COVID-19.

Mewn ymgais i ateb y galw hwnnw, ac yn dilyn cynllun peilot ym Mhowys, cyflwynwyd gwasanaeth therapi ar-lein SilverCloud Cymru ledled Cymru ym mis Medi 2020.

Dywedodd Fionnuala Clayton, Cynorthwy-ydd Seicolegol a Chydlynydd Therapi Ymddygiad Gwybyddol Clinigol Ar-lein SilverCloud Cymru, fod gwasanaethau fel SilverCloud Cymru yn achubiaeth i lawer.

Meddai: "Mae SilverCloud Cymru yn cynnig lle ar-lein i bobl archwilio eu heriau a'u profiadau personol mewn ffordd ddiogel a chyfrinachol.

"Gall dychwelyd i 'normal' fod yr un mor heriol â dechrau’r cyfnod clo.

"Er ein bod i gyd wedi wynebu heriau gwahanol yn dibynnu ar ein hoedran, pa mor agored i niwed ydyn ni, cyflogaeth a chylchoedd cymdeithasol, yr hyn sydd gan bob un ohonom yw cyd-ddealltwriaeth bod Covid wedi cael effaith wirioneddol ar ein bywydau bob dydd.

"Mae'r heriau cyffredin rydym yn clywed amdanynt gan bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn cynnwys:

  • Dod o hyd i gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i'r rhai sydd wedi gweithio'n barhaus drwy'r pandemig, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio gartref.
  • Dychwelyd i'r gwaith a sut i ymdopi ag amheuon i'r rhai sydd wedi bod mewn gwaith ac allan o waith oherwydd cyfyngiadau, ffyrlo a gwarchod.
  • Pryderon am ddychwelyd i 'normal', cymdeithasu, a'r cynnydd mewn symptomau gorbryder cymdeithasol sy'n ymwneud â mesurau Covid yn cael eu llacio
  • Unigrwydd a theimlo'n ynysig, a'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar ein cysylltiadau ag anwyliaid.
  • Y rhai sy'n cael trafferth gyda phatrymau bob dydd, hwyliau isel ac weithiau, o ganlyniad, pryderon o ran hunan-barch a delwedd y corff."

Mae SilverCloud Cymru yn defnyddio Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) Ar-lein sydd wedi'i gynllunio i helpu pobl i reoli eu hiechyd meddwl a'u lles. Mae CBT yn gweithio drwy annog pobl i herio'r ffordd maen nhw'n meddwl ac yn ymddwyn fel eu bod mewn sefyllfa well i ddelio â phroblemau bywyd.

Mae’r gwasanaeth yn cynnig help ar gyfer gorbryder, iselder, straen, cwsg, pryderon ariannol a mwy. Mae defnyddwyr yn dewis un o'r rhaglenni ar-lein rhyngweithiol hawdd eu defnyddio i'w chwblhau dros 12 wythnos, ac ar gyfer y canlyniadau gorau y cyngor yw i ddefnyddio'r gwasanaeth am 15-20 munud y dydd, dair i bedair gwaith yr wythnos.

Er ei fod yn wasanaeth hunangymorth ar-lein, mae SilverCloud Cymru yn cael ei gefnogi gan dîm o seicolegwyr a chydlynwyr therapi ymddygiad gwybyddol ar-lein.

Yn ôl Ms Clayton: "Cefnogir defnyddwyr SilverCloud Cymru drwy’r rhaglen ar-lein maen nhw wedi’i dewis, gan Gefnogwyr SilverCloud sydd â chefndir ym maes seicoleg ac sy'n gwybod sut i gael y gorau o'r rhaglen.

"Ochr yn ochr â'n prif raglenni, gall Cefnogwyr SilverCloud ddatgloi modiwlau ychwanegol os byddwn yn teimlo bod angen mwy o gymorth ar ddefnyddiwr mewn rhai meysydd.

"Mae'r modiwlau hyn yn wirioneddol wych o ran cymorth ychwanegol. Mae'r modiwl cyfathrebu a pherthynas yn arbennig o ddefnyddiol o ran deall ein dulliau cyfathrebu ni ein hunain ac eraill, ac mae wedi dod yn bwysicach byth ein bod yn eu deall gan fod ein dulliau o gyfathrebu a chysylltu â’n gilydd wedi dod yn llawer mwy rhithwir.

"Ddylai neb deimlo eu bod ar eu pennau eu hunain gyda'u problemau. Mae wedi bod yn wych gweld therapi ar-lein SilverCloud Cymru yn cyrraedd cymaint o bobl, nid yn unig ar draws Powys, lle dechreuodd, ond sydd bellach ar gael i unrhyw glaf neu breswylydd yng Nghymru."

Dywedodd Ms Clayton fod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, sy'n rhedeg rhwng 10 a 16 Mai, 2021, yn ysgogiad amserol i bobl flaenoriaethu eu lles ar ôl y cyfyngiadau symud.

Meddai: "Defnyddiwch yr adnoddau sydd gennych i'ch helpu i ymdopi ar adegau o straen. Gall adnoddau fod yn nifer o wahanol bethau, gan gynnwys rhai amgylcheddol, megis mannau gwyrdd a chyfleusterau hamdden, a rhai cymdeithasol, fel teulu a ffrindiau.

"Gall creu cysylltiadau â'r byd y tu allan a dysgu technegau newydd i reoli sut rydych chi'n teimlo, fod yn help gwirioneddol.”

Am ragor o wybodaeth, ac i gofrestru, ewch i: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/.

Dewch o hyd i ni ar Twitter: https://twitter.com/SilvercloudW.

Dewch o hyd i ni ar Facebook: https://www.facebook.com/SilverCloudWales.