9 Ionawr 2023
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio gyda Meddygfa Solfach yng Ngogledd Sir Benfro i sicrhau bod gwasanaethau meddygon teulu yn parhau i gael eu darparu i gleifion yn dilyn ildio’r gytundeb Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ym mis Rhagfyr 2022.
Gwnaethpwyd y penderfyniad i ildio’r gytundeb y mae’r Meddygfa yn ei ddal gyda’r bwrdd iechyd gan y Partner Meddyg Teulu sy’n ymddeol yn y Gwanwyn.
Ar gyfer cleifion cofrestredig mae hyn yn golygu y bydd gwasanaethau'n parhau i gael eu darparu fel arfer gan yr un tîm yn y feddygfa tan ddiwedd mis Mawrth 2023. Dylai cleifion barhau i fod wedi'u cofrestru gyda'r feddygfa tra bod cynlluniau tymor hwy yn cael eu datblygu.
Mae'r bwrdd iechyd yn gweithio'n agos gyda'r Cyngor Iechyd Cymunedol i sicrhau bod y safonau uchel o ofal a ddarperir ar hyn o bryd yn parhau i gleifion y feddygfa hon.
Bydd barn y gymuned leol a chleifion yn cael ei chasglu cyn gwneud unrhyw benderfyniad am ddarpariaeth hirdymor ar gyfer y gwasanaeth, a gwahoddir cleifion i roi eu barn mewn digwyddiad galw heibio cyhoeddus a gynhelir yn Neuadd Goffa Solfach rhwng 2.30pm a 7pm ar Ionawr 24.
I’r rhai na allant ddod i’r digwyddiad, bydd cyfle hefyd i lenwi holiadur, ar-lein neu drwy gopi papur.
Mae'r bwrdd iechyd yn ysgrifennu eto at yr holl gleifion sydd wedi'u cofrestru ym Meddygfa Solfach i'w gwahodd i'r digwyddiad galw heibio a bydd yn amgáu copi o'r holiadur a dolen iddo.
Ar hyn o bryd mae rhai cleifion yn casglu eu meddyginiaeth o'r Feddygfa yn hytrach nag o fferyllfa gymunedol leol. Mae hwn yn drefniant hanesyddol ac o dan reoliadau'r GIG ni ellir parhau â hyn unwaith y bydd y gytundeb wedi dod i ben. Mae hyn yn golygu y bydd y gweinyddu yn dod i ben ar 31 Mawrth, ni waeth sut y bydd gwasanaethau eraill yn cael eu darparu o hynny ymlaen, a bydd angen i bob claf fynd i fferyllfa gymunedol i gasglu ei feddyginiaeth.
Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffai’r bwrdd iechyd roi sicrwydd i gleifion Meddygfa Solfach y bydd darpariaeth y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol pwysig hyn yn parhau i gleifion.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda Meddygfa Solfach i ddod o hyd i’r ffordd orau o sicrhau gwasanaethau i’w cleifion.
“Mae’r bwrdd iechyd yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth barhaus a roddir gan y gymuned i’r tîm ym Meddygfa Solfach trwy gydol y cyfnod heriol hwn.”
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0300 303 8322 (opsiwn 5) neu e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk