Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau ar gyfer uned ddydd cemotherapi newydd yn symud ymlaen ar gyfer Ysbyty Bronglais

Arwydd Ysbyty Bronglais

Wrth i 2022 ddod i ben, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn estyn ei ddiolch o galon i bawb sydd wedi cefnogi ymdrechion codi arian drwy gydol y flwyddyn i gefnogi’r uned ddydd cemotherapi newydd yn Ysbyty Bronglais.

Bydd yr uned ddydd cemotherapi newydd, y disgwylir iddi agor yn 2024, yn cynnwys ardal driniaeth bwrpasol fwy i gleifion, gan gynnwys cyfleuster ynysu, ynghyd â derbynfa, mannau cleifion allanol ac aros, yn ogystal ag ystafelloedd ymgynghori ac archwilio. Bydd cyfleusterau ychwanegol yn cynnwys ystafell gyfarfod gyda chyfleusterau fideo-gynadledda, ystafelloedd cwnsela a mannau preifat i gleifion.

Dywedodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sirol BIP Hywel Dda ar gyfer Ceredigion a chyfarwyddwr prosiect: “Gyda chymorth a chefnogaeth pobl o bob rhan o Geredigion, Powys a Gwynedd, mae’r weledigaeth o uned cemotherapi newydd sbon ar gyfer pobl leol bellach yn realiti.

“Mae’r prosiect wedi symud i’r cyfnod cysyniad, gyda gwaith dylunio technegol, dan arweiniad staff sy’n gwybod orau beth ddylai’r uned ei ddarparu a sut y dylai’r amgylchedd deimlo, gan barhau i’r Flwyddyn Newydd.

“Mae cynlluniau hefyd ar y gweill i alluogi’r Uned Ddydd Cemotherapi i symud i gyfleuster dros dro yn ddiweddarach yn 2023 tra bod y gwaith adeiladu’n cael ei wneud.

“Wrth i gerrig milltir allweddol a phenderfyniadau gael eu gwneud, bydd y bwrdd iechyd yn sicrhau bod y gymuned leol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr uned.”

Bydd un o bob dau o bobl ledled Cymru yn cael diagnosis o ganser ar ryw adeg yn ystod eu hoes; mae'n gyflwr sydd, yn anffodus, yn effeithio ar bron bob teulu. Mae dros 60 o bobl yr wythnos yn derbyn triniaeth gwrth-ganser hanfodol yn Ysbyty Bronglais, cyfanswm o tua 300 o bobl y flwyddyn o bob rhan o Geredigion, de Gwynedd a gogledd Powys.

Lansiwyd Apêl Cemo Bronglais i godi’r £500,000 terfynol sydd ei angen i ddechrau adeiladu uned ddydd cemotherapi pwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais.

Mae'r Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rhagwelir y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.


I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i:  www.elusennauiechydhyweldda.org.uk