Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau ar gyfer Meddygfa Penrhyn yn symud ymlaen

Medi 27 2024

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau â’r gwaith i baratoi ar gyfer trosglwyddo cleifion o Feddygfa Tyddewi yn Sir Benfro i feddygfeydd cyfagos cyn diwedd mis Hydref pan fydd y contract presennol yn dod i ben.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai gofal cleifion ym Meddygfa Tyddewi yn Sir Benfro yn cael ei drosglwyddo i bractisau lleol mor agos â phosibl at ble maent yn byw, mewn cyfarfod o’r Bwrdd ddiwedd mis Gorffennaf.

Ymrwymodd y Bwrdd Iechyd hefyd i weithio ar sefydlu Meddygfa Gangen yn Nhyddewi i ddarparu gwasanaethau am ran o’r wythnos i’r cleifion hynny sy’n trosglwyddo i Feddygfa Solfach gerllaw.

Heddiw (dydd Iau, 26 Medi), cyhoeddodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor, Hywel Dda, mewn Cyfarfod Bwrdd  (dydd Iau, 26 Medi) fod y Bwrdd Iechyd yn cynnal trafodaethau â Shalom House yn Nhyddewi ynghylch sefydlu Meddygfa Gangen.

“Mae’r lleoliad ar Stryd Nun yn gyfleus i gleifion ac yn sefydliad sydd wedi hen ennill ei blwyf sy’n cael ei gefnogi’n dda gan y gymuned leol ac rydym wrth ein bodd yn gweithio gydag Ymddiriedolwyr Shalom i fwrw ymlaen â’r datblygiad hwn,” meddai Ms Paterson.

“Rydym yn y broses o gynllunio gwasanaethau i’w darparu gan dîm amlddisgyblaethol ac rydym yn cynllunio gwasanaethau cymunedol yno a rhai gwasanaethau clwstwr hefyd.”

Gwnaethpwyd y penderfyniad i drosglwyddo cleifion o Feddygfa Tyddewi yn dilyn cyfnod helaeth o ymgysylltu â chleifion yn y practis a Llais, sefydliad llais y claf yng Nghymru. Roedd hyn yn dilyn penderfyniad yr un meddyg teulu sy'n rhedeg y feddygfa i ildio o'i Gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol.

O 1 Tachwedd 2024 bydd Meddygfa Solfach yn cael ei hadnabod fel  Meddygfa Penrhyn i adlewyrchu cyrhaeddiad ehangach y Practis. Cynigiwyd yr enw gan Weithgor y Penrhyn, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Dinas Tyddewi a chynghorau cymuned Solfach a Llanrhian.

Bydd y staff cyflogedig ym Meddygfa Tyddewi yn trosglwyddo i Bractis Penrhyn i ymuno â’r tîm cynyddol yno, gan gynnwys staff gweinyddol a nyrsio a’r meddyg teulu cyflogedig.

Bydd pob claf ym Meddygfa Tyddewi wedi cael llythyr yn eu hysbysu i ba Feddygfa y byddant yn cael eu trosglwyddo, a byddwn yn cysylltu â phawb yn fuan gyda llythyr croeso gyda gwybodaeth bellach.

Dywedodd Ms Paterson: “Mae’r cynllunio ar gyfer y cyfnod pontio wedi hen ddechrau. Nid oes angen i gleifion wneud unrhyw beth – byddwn yn trosglwyddo’r holl gofnodion a chofrestriadau.

“Yn y cyfamser, bydd gwaith i addasu adeilad y feddygfa yn Solfach ar gyfer y staff a’r cleifion ychwanegol yn digwydd yn yr wythnosau nesaf. Mae hyn yn cynnwys newidiadau mewnol i adeilad y feddygfa a fydd yn digwydd dros yr wythnosau nesaf er mwyn trosi ystafelloedd nad ydynt yn cael eu defnyddio’n ddigonol yn ystafelloedd ymgynghori a thriniaeth, ac i symud rhywfaint o ofod swyddfa i’r llawr cyntaf.”

Dywedodd Ms Paterson ei bod yn ymwybodol bod rhai o gleifion Meddygfa Tyddewi yn poeni am deithio i Solfach ar gyfer apwyntiadau.

“O ran teithio, rydym yn cydnabod bod hyn yn her. Mae rhai unigolion yn mynd i orfod teithio tair milltir i Feddygfa Solfach, ond rydym yn gobeithio na fydd yr angen hwnnw’n sylweddol oherwydd ein bod yn gweithio i ddarparu cymaint o wasanaethau yn y gymuned leol ag y gallwn.

“Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda PACTO – Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro. Maent wedi ein helpu i ddatblygu taflen ac maent yn chwilio am yrwyr gwirfoddol i gynorthwyo gyda’r broses hon, fel y gallant ymateb i angen lle nad yw bysiau ar gael i unigolion.

“Rydyn ni hefyd wedi cael ymrwymiad gan y feddygfa y byddan nhw, cyn belled â phosib, pan fydd angen i bobl fynd i’r feddygfa, yn ceisio cydlynu amseroedd apwyntiadau gydag amseroedd bysiau.”

I'r rhai sydd angen teithio i Feddygfa'r Penrhyn yn Solfach, bydd gwybodaeth am opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus i gleifion ar wefan y feddygfa.

Dylai cleifion sydd angen cymorth neu wybodaeth bellach gysylltu â’r Bwrdd Iechyd dros y ffôn ar 0300 303 8322 (opsiwn 5), neu e-bost ask.hdd@wales.nhs.uk.

DIWEDD