Mae’n bleser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyhoeddi mae Achos Busnes Amlinellol ar gyfer datblygu Canolfan Lles sy’n cael ei leoli yn Cross Hands i'w ailgyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Mae’r achos busnes yn amlinellu ein bwriad i ddatblygu rhwydwaith iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar gyfer ardal Aman Gwendraeth ac adeiladu Canolfan Lles. Os caiff ei gymeradwyo, bydd y ganolfan yn darparu sylfaen ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal a fydd yn cynnwys dwy feddygfa leol (Tymbl a Penygroes), llyfrgell, canolfan deulu, fferyllfa gymunedol a hefyd swyddogion cymorth heddlu cymunedol a grwpiau sector gwirfoddol.
Mae pandemig Covid-19 wedi newid y ffordd yr ydym yn darparu rhai gwasanaethau iechyd a gofal. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i adnewyddu’r achos busnes dros y datblygiad er mwyn sicrhau bod y rhain yn parhau i fod yn addas ar gyfer anghenion iechyd a gofal ein poblogaeth nawr ac yn y dyfodol. Rhagwelir y bydd yr Achos Busnes yn cael ei ailgyflwyno i Lywodraeth Cymru yn Gwanwyn 2022.
Dywedodd Rhian Dawson, Cyfarwyddwr System Integredig (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Caerfyrddin) “Rwy’n falch iawn ein bod bellach yn gallu ailffocysu ar ddatblygiad y Ganolfan Lles yn Cross Hands. Bydd hyn nid unig yn ased i Cross Hands ond bydd o fudd i Sir Gaerfyrddin yn ei chyfanrwydd. Er ei bod yn anffodus bod y pandemig wedi gohirio ein cynnydd, mae o hefyd wedi dangos pwysigrwydd darparu gwasanaethau mor agos at adref a phosibl.”
Rhagwelir y gallai’r Ganolfan fod yn gyflawn o fewn 36 mis ar ôl cymeradwyo’r achos Busnes Amlinellol.