15 Awst 2022
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn lansio gwasanaeth peilot, a ariennir gan Moondance Cancer Initiative, sef Llinell Asesu Symptomau Canser yr Ysgyfaint (LUMEN), gwasanaeth dan arweiniad Nyrsys sydd wedi’i anelu at ysmygwyr a’r rhai nad ydynt yn ysmygu, yn ardal Sir Gaerfyrddin. Bydd y gwasanaeth hwn yn weithredol o 15 Awst 2022.
Mae'r gwasanaeth Llinell Ffôn yn gobeithio rhoi pwynt mynediad newydd i'r cyhoedd ar gyfer diagnosis Canser yr Ysgyfaint, gan ganiatáu i unrhyw un sy'n bodloni'r meini prawf i siarad â nyrs yn uniongyrchol i drafod eu symptomau a chael apwyntiad i gael Pelydr-X o'r frest.
Yng Nghymru mae dros 2,300 o gleifion yn cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint bob blwyddyn, ond mae llai nag 20% o’r rhain yn cael diagnosis yn y cyfnod cynnar pan fyddant yn gymwys i gael triniaeth iachaol, dangoswyd bod diagnosis cynnar yn arwain at well goroesiad.
Bydd y gwasanaeth peilot hwn ar gael i unrhyw un sydd wedi'i gofrestru gyda Meddyg Teulu yn Sir Gaerfyrddin sy'n 40 oed neu'n hŷn, ysmygwyr a chyn-ysmygwyr sydd ag un neu fwy o'r symptomau canlynol a phobl nad ydynt yn ysmygu â 2 neu fwy o'r symptomau canlynol:
• Peswch (mwy na 3 wythnos)
• Colli pwysau heb geisio
• Prinder anadl
• Llais cryg
• Heintiau mynych ar y frest
• Poen yn y frest
• Yn fwy blinedig nag arfer
• Colli archwaeth
• Cyflwr ar yr ysgyfaint gyda symptomau yn newid
Os bydd yn llwyddiannus, y gobaith yw y bydd y peilot yn cael ei ymestyn i Sir Benfro a Cheredigion fel ei gilydd a bod ganddo'r potensial i gynyddu diagnosis cynnar i'r rhai sydd â symptomau canser yr ysgyfaint.
Dywedodd Dr Robin Ghosal, Meddyg Anadlol a Chyfarwyddwr Ysbyty yn Ysbyty Tywysog Philip: “Mae gan y gwasanaeth newydd arloesol hwn y potensial i chwyldroi llwybr diagnostig canser yr ysgyfaint gan arwain at ddiagnosis cynharach a chanlyniadau gwell i gleifion.”
Os ydych chi, aelod o'ch teulu, neu ffrind dros 40 oed ac yn dioddef o unrhyw un o'r symptomau uchod, ffoniwch 0300 30366142 - dydd Llun i ddydd Gwener 9am -2pm neu am ragor o wybodaeth am Gynllun Canser Moondance ewch i'w gwefan (agor yn ddolen newydd)