Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth am ddim i bobl â diabetes math 2

30 Mehefin 2022

Mae pobl â diabetes Math 2 yn cael cynnig y cyfle i gymryd rhan mewn rhaglen chwe wythnos o hyd a fydd yn eu helpu i reoli eu cyflwr.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno gan Nyrsys Diabetes Arbenigol a Dietegwyr Diabetes Arbenigol y bwrdd iechyd. Bydd pob sesiwn wythnosol yn para dwy awr a hanner, a bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys:

  • Beth yw Diabetes?
  • Treuliad a glwcos yn y gwaed
  • Hunan-fonitro, meddyginiaethau, rheoli pwysau
  • Ymwybyddiaeth o garbohydradau
  • Cymhlethdodau posibl Diabetes
  • Gosod nodau

Cynhelir y sesiynau yn y lleoliadau canlynol:

  • Canolfan Antioch, Heol Copperworks, Llanelli SA15 2NE: Dydd Iau 7 Gorffennaf – Dydd Iau 11 Awst rhwng 10am a 12:30pm
  • Maes Mwldan, Bath House Road, Aberteifi SA43 1JZ: Dydd Llun 4 Gorffennaf i ddydd Llun 8 Awst o 10am – 12:30pm
  • Clwb Criced Dale Rd, Hwlffordd, SA61 1HZ Dydd Iau 8 Medi i ddydd Iau 13 Hydref o 10am – 12:30pm

I sicrhau lle yn unrhyw un o'r canolfannau uchod, cysylltwch â'r Adran Rhaglen Addysg i Gleifion ar 01554 899035, neu e-bostiwch EPP.HDD@wales.nhs.uk.