24 Ionawr 2025
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwahodd pobl o gymuned ehangach Llanelli i lunio opsiynau posibl ar gyfer dyfodol yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip.
Rhoddwyd newid dros dro i oriau agor yr uned, o 24/7 i 8am-8pm bob dydd, yn ei le ar Dachwedd 1 2024, a hynny am gyfnod o chwe mis. Roedd hyn er mwyn diogelu diogelwch cleifion a staff oherwydd nad oedd Meddygon Teulu Uned Mân Anafiadau priodol yn eu lle gyda'r nos a thros nos.
Mae’r bwrdd iechyd yn y broses o ddatblygu rhestr o opsiynau posibl ar gyfer model cynaliadwy, ac un ohonynt yw dychwelyd y gwasanaeth i’r hyn ydoedd cyn gwneud y newid dros dro. Mae’r bwrdd iechyd am sicrhau bod pobl leol yn cael eu cynnwys yn y broses hon, ynghyd â staff clinigol a rhanddeiliaid.
Gall pobl o bob rhan o’r gymuned fynegi diddordeb i ymuno â grŵp rhanddeiliaid bychan a fydd yn cwrdd ar bum achlysur rhwng dechrau mis Chwefror a dechrau mis Mawrth 2025.
Bydd y grŵp yn rhoi adborth ar restr gychwynnol o opsiynau ac yn cymryd rhan mewn sgorio a llunio rhestr fer o opsiynau i fynd gerbron y Bwrdd Cyhoeddus ddiwedd mis Mawrth.
Ynghyd â chynrychilaeth o’r gymuned ehangach, mae SOSPPAN wedi cael gwahoddiad i fod yn rhan o’r grŵp datblygu opsiynau.
I gymryd rhan, mae angen i bobl ymrwymo i fynychu pob sesiwn, a gynhelir ar y dyddiadau hyn: Dydd Iau 6ed Chwefror, dydd Llun 10fed Chwefror, dydd Llun 17eg Chwefror, dydd Llun 24ain Chwefror a dydd Llun 3ydd Mawrth.
Bydd y sesiynau yn cynnwys gweithdai ar-lein ac wyneb yn wyneb yn Llanelli.
Wrth siarad am y digwyddiadau, dywedodd Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro Hywel Dda:
“Mae gwrando ar y bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn hanfodol i sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir ar gyfer ein cymunedau.”
“Trwy ddwyn pobl ynghyd i helpu i werthuso opsiynau ar gyfer model yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip yn y dyfodol, gallwn ddiwallu anghenion y bobl rydym yn eu gwasanaethu’n well.”
“Bydd y broses hon yn ymdrech gydweithredol, ac rydym yn annog y rhai sydd â diddordeb i gamu ymlaen a mynegi eu diddordeb i fod yn rhan o’r broses.”
Mae’r Uned Mân Anafiadau yn darparu gofal i oedolion a phlant dros 12 mis oed gyda mân anafiadau megis mân glwyfau, mân losgiadau neu sgaldiadau, mân anafiadau i’r coesau neu’r breichiau, brathiadau a phigiadau, cyrff estron yn y glust neu’r trwyn a mân anafiadau i’r llygaid.
Mae Uned Asesu Meddygol Acíwt yr ysbyty, sy’n darparu gofal brys i gleifion meddygol sâl iawn, fel y rhai sydd wedi dioddef strôc neu drawiad ar y galon, yn parhau i fod yn wasanaeth 24/7 yn Ysbyty Tywysog Philip ac nid yw’n rhan o’r newid dros dro hwn. Mae cleifion yn cael eu cludo i'r uned hon yn uniongyrchol gan y gwasanaeth ambiwlans, neu'n cael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu, neu gan y gwasanaeth y Tu Allan i Oriau.
Sut mae cymryd rhan
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r broses hon, llenwch y ffurflen Mynegi Diddordeb - https://forms.office.com/e/RMCAH3W7bg
- erbyn 30 Ionawr 2025.
Mae lleoedd yn gyfyngedig, ac nid yw cyflwyno ffurflen yn gwarantu eich lle. I’r rhai na allant ymuno â’r grŵp, gallwch gyfrannu eich sylwadau yma Uned Mân Anafiadau – Ysbyty Tywysog Philip | Dweud eich dweud BIP Hywel Dda
Os bydd angen i’r bwrdd iechyd ystyried newidiadau i’r model gwasanaeth fel ag yr oedd cyn y newid dros dro hwn, bydd ymgysylltu neu ymgynghori â’r gymuned leol a mwy o gyfleoedd i bobl rannu eu barn.