Cafwyd anrheg Blwyddyn Newydd gynnar gwerth miliynau o bunnoedd i roi hwb mawr i Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Mae cam cyntaf cyllid y Fargen Ddinesig – gwerth £18 miliwn – wedi cael ei ryddhau gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen fuddsoddi, sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.
Mae'r cyllid wedi'i seilio ar gymeradwyo dau o brosiectau'r Fargen Ddinesig – Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau, a Chanolfan S4C Yr Egin.
Mae gwaith adeiladu bellach wedi dechrau ar arena dan do ddigidol â lle i 3,500 o bobl sydd ar safle ger yr LC yn Abertawe. Mae prosiect y Fargen Ddinesig yn Abertawe hefyd yn cynnwys pentref digidol ar Ffordd y Brenin ar gyfer busnesau sy'n canolbwyntio ar dechnoleg a materion digidol, yn ogystal â datblygiad pentref blychau a rhodfa arloesi ar gyfer cwmnïau newydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (SA1).
Mae cam un clwstwr digidol a chreadigol Canolfan S4C Yr Egin eisoes wedi'i gwblhau ar gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a bydd y cyllid bellach yn cychwyn ail gam y datblygiad.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Dyma'r tro cyntaf i gyllid y Fargen Ddinesig gael ei sicrhau, felly mae'n garreg filltir bwysig ar gyfer rhaglen fuddsoddi a fydd yn gwneud gwahaniaeth i drigolion a busnesau ar draws de-orllewin Cymru drwy greu miloedd o swyddi o ansawdd uchel drwy nifer o brosiectau cyffrous.
“Mae'n dangos y cynnydd enfawr sy'n cael ei wneud yn barhaus gan holl bartneriaid y Fargen Ddinesig gan ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni cyn gynted â phosibl i helpu i drawsnewid economi'r Dinas-ranbarth.
“Mae'r prif waith adeiladu ar arena dan do ddigidol Abertawe bellach wedi dechrau, mae cam un Yr Egin yng Nghaerfyrddin wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae prosiect Ardal Forol Doc Penfro a fydd yn gosod de-orllewin Cymru wrth wraidd arloesedd byd-eang ym maes ynni morol wedi cael ei gyflwyno i'r ddwy Lywodraeth i'w gymeradwyo'n derfynol.
“Bydd £18 miliwn arall o gyllid y Fargen Ddinesig hefyd yn cael ei sicrhau erbyn diwedd Mawrth 2020, yn amodol ar gymeradwyo prosiectau ychwanegol erbyn hynny. Bwriedir rhyddhau rhagor o gyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf hefyd, yn amodol ar gynnydd o ran cyflawni.”
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru: “Mae'r cyhoeddiad hwn yn arwydd o symud i'r cam cyflawni ac mae'n arwydd clir o hyder ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
“Mae potensial mawr ar gyfer twf economaidd gwirioneddol yn y rhanbarth drwy'r fargen uchelgeisiol a all fod o fudd i fusnesau a chymunedau lleol yn ne-orllewin Cymru.
“Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru bellach wedi rhyddhau'r cyllid hwn ac rwy'n edrych ymlaen at weld rhagor o gynnydd ar y cynigion a all gynnig cyfleoedd cyffrous a newid trawsnewidiol ar gyfer yr ardal.”
Dywedodd Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn Llywodraeth y DU: “Mae rhyddhau'r cyllid hwn yn dangos cryfder y diwydiannau creadigol a digidol ar draws y rhanbarth hwn, ac mae'n arwydd o'r cyfleoedd cadarnhaol sydd o'n blaenau.
“Mae'r ddwy Lywodraeth yn parhau i gydweithio i rymuso Dinas-ranbarth Bae Abertawe i greu swyddi o ansawdd, denu buddsoddiad pellach a chreu twf economaidd, a fydd yn cael effaith hirdymor drawsnewidiol ar yr ardal.”
Dywedodd Jake Berry AS, Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros Bwerdy Gogledd Lloegr a Thwf Lleol: “Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn tystio i ymrwymiad y Llywodraeth i uno a chodi'r DU gyfan i lefel uwch. Bydd y buddsoddiad hwn gwerth miliynau o bunnoedd yn rhoi hwb anferth i dwf, yn creu dros 9,000 o swyddi o ansawdd uchel ac yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i'w sicrhau.
“Gan weithio law yn llaw â llywodraeth leol a busnesau, byddwn yn creu cyfleoedd economaidd newydd a chyffrous i ryddhau potensial de-orllewin Cymru a'r DU gyfan.”
Mae prosiectau eraill sy'n cael eu hystyried yn fuan gan y Cyd-bwyllgor i'w cyflwyno i'r ddwy Lywodraeth i'w cymeradwyo yn cynnwys datblygiad gwyddor bywyd a llesiant wedi'i ail-fodelu a glustnodwyd ar gyfer Llanelli, yn ogystal â rhaglen ddiwygiedig o brosiectau yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n canolbwyntio ar arloesi, tanwydd di-garbon a dyfodol dur.
Mae gwaith manwl ar brosiect rhanbarthol Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, hefyd yn gwneud cynnydd sylweddol.
Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn werth £1.8 biliwn a thros 9,000 o swyddi o ansawdd uchel i economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn y blynyddoedd nesaf.