Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi gwasanaeth blynyddol ar-lein – Gwasanaeth Yn Ein Calonnau Am Byth

Bydd y gwasanaeth blynyddol Yn Ein Calonnau Am Byth yn cael ei gynnal fel gwasanaeth coffa rhithwir eleni am 6.30pm ddydd Llun 30 Tachwedd 2020.

Bob blwyddyn, mae Adran Gofal Ysbrydol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghyd â Phwyllgor Codi Arian Tŷ Cymorth yn cynnal Gwasanaeth Yn Ein Calonnau Am Byth yn Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne. 

Meddai Euryl Howells, Uwch Gaplan BIP Hywel Dda: “Tachwedd yw mis cofio. Mae atgofion yn gynnes ac yn gysur – yn ein llenwi â llawenydd neu ein llenwi â thristwch a gofid.

“Bydd y seremoni yn le ac yn amser i gofio. Yn anffodus nid yw’n bosib inni ddod ynghyd, ond y gobaith yw y bydd y gwasanaeth coffa rhithwir hwn, wedi’i ffilmio yng ngolwg gerddi Tŷ Cymorth, yn dod â rhywfaint o gysur i’r rhai sy’n galaru, ac yn eu hatgoffa nad ydynt ar eu pen eu hunain, a bod eraill yn cerdded ochr yn ochr â chi – er o bell.”

Efallai yr hoffech gael cannwyll i’w gaoleuo yn ystod y cofio, carreg fechan i’w dal neu lun o’ch anwylyd. Bydd darlleniad aml-ffydd, amser i fyfyrio a cherddoriaeth offerynol a byddwn yn cynnau golau y Goeden Gofio – y Goeden o Obaith.

Os hoffech gysegru golau neu anfon neges o obaith, gallwch wneud hynny Loved.Forever.HDD@wales.nhs.uk

Bydd Gwasanaeth Yn Ein Calonnau Am Bythyn dechrau am 6.30pm ddydd Llun 30 Tachwedd 2020. I wylio’r gwasanaeth, defnyddiwch y ddolen https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_MTM1MjBkY2QtZWMyMi00ZmVmLWJkZmEtYTNhNmZhM2JlZDE2%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%22bb5628b8-e328-4082-a856-433c9edc8fae%22%2c%22Oid%22%3a%22e4e6fd79-4c80-441e-844c-e4ce7ff28523%22%2c%22IsBroadcastMeeting%22%3atrue%7d