 
				
			
			Diolch i bawb am gefnogi ein cyfyngiadau ymwelwyr i amddiffyn ein cleifion a'n GIG. Rydym bellach wedi symud i gyfyngu ymwelwyr i'n holl wardiau. 
	 
	Yr unig eithriadau i'r trefniant hwn yw:
• Un rhiant / gwarcheidwad ar y tro i ymweld â'u plentyn
• Ar gyfer mamau beichiog - dim ond un partner geni
• Cleifion yr ystyrir eu bod ar ddiwedd oes neu'n derbyn gofal lliniarol.  
	 
	Rhaid i ymweliadau gael eu trefnu ymlaen llaw a'u cytuno gyda'r PBrif Nyrs / Nyrs â gofal. Rydyn ni'n gwybod bod hwn yn amser anodd iawn a bydd yn ofidus i beidio â gallu ymweld â'ch anwyliaid. Gall ein Tîm Cymorth i Gleifion helpu i ddosbarthu eitemau hanfodol i gleifion gan eu teulu; os oes angen eu cymorth arnoch, ffoniwch nhw ar a 0300 0200 159 a byddant yn gwneud eu gorau i'ch helpu chi.   Mae ein Gwasanaeth Caplaniaeth hefyd wrth law i ddarparu cefnogaeth ysbrydol i'n staff a'n cleifion ar yr adeg anodd yma.