Neidio i'r prif gynnwy

Cyfyngiadau Llanelli yn helpu i reoli achosion uchel o COVID

Mae pobl Llanelli yn helpu i reoli cyfradd yr heintiau Covid-19 yn yr ardal, ond mae angen gwneud mwy cyn y gellir codi'r cyfyngiadau.

Mae nifer yr achosion positif yn yr 'ardal diogelu iechyd' yn dal i fod deirgwaith yn uwch na rhannau eraill o'r sir, ond mae'n ymddangos bod y camau y mae preswylwyr yn eu cymryd yn gwneud gwahaniaeth.

Pan gyflwynwyd y cyfyngiadau lleol newydd bythefnos yn ôl (dydd Gwener, 25 Medi, 2020), cyfradd yr haint yn yr 'ardal diogelu iechyd' ddynodedig oedd 152 fesul 100,000 o'r boblogaeth.

Er bod cyfradd yr achosion wedi cynyddu a gostwng yn ystod y pythefnos diwethaf, mae'r data diweddaraf yn dangos bod cyfradd yr haint bellach yn 99.9 fesul 100,000 o bobl*.

Y gyfradd ar gyfer gweddill y sir, ac eithrio ardal diogelu iechyd Llanelli, yw 33.9 fesul 100,000.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor, ei bod yn dangos bod pobl yn gwrando ar y cyngor ac yn helpu i ddiogelu ei gilydd.

Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy'n gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, er bod yr arwyddion yn galonogol, fod angen i'r cyfyngiadau yn ardal Llanelli barhau am o leiaf wythnos arall er mwyn sicrhau bod modd parhau i reoli lledaeniad yr haint.

Caiff y sefyllfa ei hadolygu'n wythnosol, a bydd ffigurau a phenderfyniadau'n cael eu cyhoeddi bob prynhawn Gwener.

Mae gweddill Sir Gaerfyrddin yn parhau i gael ei fonitro a gofynnir i'r holl breswylwyr barhau i ddilyn y canllawiau cenedlaethol i sicrhau nad yw cyfyngiadau symud yn cael eu cyflwyno yn y sir gyfan.

Mae cyfradd gyffredinol yr haint ar gyfer Sir Gaerfyrddin i gyd bellach wedi codi i 53.5 fesul 100,000 o'r boblogaeth. 

I ddarllen datganiad i'r wasg llawn Cynghorau Sir Caerfyrddin cliciwch yma