27 Tachwedd 2023
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymestyn y cyfnod ymgysylltu â’r cyhoedd ar gyfer y cais gan y Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr, i gau eu Meddygfa Cangen Talacharn, i ddydd Gwener Rhagfyr, 8.
Derbyniodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) gais gan Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr, i gau eu Meddygfa Cangen Talacharn yn Sir Gaerfyrddin yn gynharach eleni.
Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Yn dilyn trafodaethau gyda Llais, corff llais y claf Cymru, rydym wedi ymestyn y dyddiad cau i 8 Rhagfyr ar gyfer sylwadau cleifion a’r cyhoedd ar y cynnig i gau Meddygfa Cangen Talacharn. Rydym yn awyddus i gynifer o bobl â phosibl ymuno yn y drafodaeth.”
Gall cleifion ac aelodau o’r gymuned ehangach ddweud eu dweud drwy:
Y prif resymau dros y cais i gau meddygfa gangen Talacharn yw:
Dywedodd Tracey Huggins, Pennaeth Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Unwaith y bydd cais i gau meddygfa gangen wedi’i dderbyn, mae’r Bwrdd Iechyd yn dechrau ei Broses Adolygu Practis Cangen, a reolir yn annibynnol i Feddygfa Coach and Horses.
“Mae’r broses sy’n nodi sut y bydd y Bwrdd Iechyd yn ymateb i dderbyn ac adolygu’r cais i gau. Mae hefyd yn nodi sut y byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda chleifion a rhanddeiliaid ehangach er mwyn cael eu barn, sy’n cynnwys ymgysylltu â Llais, y corff statudol yng Nghymru sy’n cynrychioli budd gorau cleifion a’r cyhoedd.
“Unwaith y bydd yr holl brosesau hyn wedi'u cwblhau, rydym yn dechrau ar gyfnod o ystyried yr adborth a gawsom yn gydwybodol. Gwneir hyn i gyd yn annibynnol i'r Practis, er ein bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ac yn cynnwys eu cynrychiolydd yn ein cyfarfodydd.
“Yn olaf, mae’r holl wybodaeth a gesglir yn cael ei hystyried pan fydd y Bwrdd yn cyfarfod yn gyhoeddus i ystyried penderfyniad terfynol ar y cais.”
DIWEDD