Neidio i'r prif gynnwy

Cyfnod o fyfyrio ac adfer ar gyfer staff y GIG

Myfyrio ac adfer yw thema Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda eleni. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Iau, 29ain Gorffennaf 2021 am 1.30pm (manylion llif byw isod).

Mae'n rhoi cyfle inni fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf a oedd yn cael ei dominyddu gan bandemig COVID-19, yn ogystal ag adolygu'r cyflawniadau a'r heriau trwy gydol y flwyddyn a gosod y cyfeiriad ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Bydd y digwyddiad blynyddol yn cynnwys rhagflas o gyfres o bodlediadau newydd cyffrous yn cynnwys ystod o staff o bob rhan o'r bwrdd iechyd yn siarad am eu profiadau o weithio yn ystod y pandemig.

Bydd y gyfres ‘Podlediadau Hywel Dda’ yn cael ei rhyddhau dros yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae'n hynod bwysig ein bod ni fel Bwrdd yn cymryd yr amser i wrando ar ein staff sydd wedi bod wrth galon y pandemig a dysgu o'u profiadau, fel y gallwn adfer o'r pandemig fel unigolion, fel sefydliad ac fel cymuned.

Mae'r gyfres yn adlewyrchu'r gweithlu amrywiol gyda staff o'r tair sir, siaradwyr Cymraeg yn ogystal â siaradwyr Saesneg, rolau clinigol yn ogystal â chymorth, radiolegydd sy'n chwarae rhan weithredol yn ein grŵp du a lleiafrifoedd ethnig staff, ac aelod o staff a oedd yn gorfod ynysu.

Y staff a gyfrannodd oedd:

  • Katherine Lewis - Rheolwr Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Oedolion Hŷn (Sir Benfro)
  • Hashim Samir - Radiolegydd Ymgynghorol (Caerfyrddin)
  • Euryl Howells - Uwch Gaplan (ledled y Bwrdd Iechyd)
  • Victoria Evans - Cydlynydd Uned Mamolaeth / Uwch Fydwraig (Caerfyrddin)
  • Mererid Davies - Therapydd Iaith a Lleferydd Pediatreg (Ceredigion)
  • Amber Davies - Prentis Gofal Iechyd / Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd (Caerfyrddin)
  • Heidi Blofield - Uwch Brif Nyrs (Caerfyrddin)

Dywedodd Victoria Evans, Cydlynydd yr Uned Mamolaeth ac Uwch Fydwraig: “Mae wedi bod yn gyfnod heriol i bawb gan gynnwys fi fy hun ac roedd gwneud y podlediad yn ffordd o adlewyrchu ac ysgogi eraill i aros yn bositif wrth inni symud ymlaen yn ein rolau.”

Ychwanegodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ar ôl blwyddyn mor ddigynsail, rwyf am fynegi fy niolch diffuant i’n staff, partneriaid a chymunedau am bopeth yr ydych wedi’i wneud ac yr ydych yn parhau i wneud i gadw Hywel Dda yn ddiogel.

“Mae’r pandemig wedi rhoi cyfleoedd inni weithio’n wahanol ac ar y cyd mewn ffordd na welsom erioed o’r blaen, a fydd, yn fy marn i, yn ein helpu i wella gofal iechyd lleol yn y dyfodol.”

Bydd Adroddiad Blynyddol y bwrdd iechyd, gan gynnwys cyfrifon cryno ac Adroddiad Elusennau Iechyd Hywel Dda, hefyd yn cael ei gyflwyno i'r CCB, gan amlinellu'r cyflawniadau a'r heriau trwy gydol y flwyddyn, a sut mae'r bwrdd iechyd wedi rheoli ac ymateb i'r pandemig, yn ogystal â edrych ymlaen at y dyfodol a sut mae'r bwrdd yn bwriadu gwella gwasanaethau i bobl leol.

I ymuno â'r CCB ddydd Iau 29ain Gorffennaf 2021 am 1.30pm dilynwch y ddolen i'r llif byw, ymunwch â'r digwyddiad a fydd yn cael ei ffrydio'n fyw trwy'r ddolen hon: Agenda a Papurau Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol - 29 Gorffennaf 2021 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (nhs.wales)

Bydd cyfres ‘Podlediadau Hywel Dda’ yn cael ei rhyddhau dros yr wythnosau nesaf yn https://hyweldda.libsyn.com.