Neidio i'r prif gynnwy

Eurig Salisbury

Enw: Eurig Salisbury

Cyfrwng artistig: Barddoniaeth

Beth am farddoniaeth sy'n eich ysbrydoli?

Mae barddoniaeth wedi bod yn ffordd i bobl ymwneud â’i gilydd erioed yn y Gymraeg. Perthynas pobl â’i gilydd yw un o themâu mawr ein llenyddiaeth, ac un math o gerdd sy’n berthnasol iawn yn y cyd-destun hwn yw cerddi cysur, sef cerddi i gysuro pobl mewn angen. Yr hyn dwi’n ei hoffi am y math hwnnw o gerdd yw ei fod yn dangos pŵer barddoniaeth i wneud lles i fywydau pobl drwy ddangos cydymdeimlad.

O ble cawsoch chi eich ysbrydoliaeth ar gyfer y cerddi ar gyfer yr uned?

Cefais fy ysbrydoli gan staff yr uned a chan bobl a oedd wedi derbyn triniaeth ganddynt. Roedd eu storïau’n llawn dygnwch, dyfalbarhad ac ysbryd cadarnhaol. Nid ar chwarae bach, wedi’r cyfan, mae dod o hyd i’r ewyllys a’r cyllid i greu uned gancr newydd fel hon, ac roedd ymroddiad amlwg pawb a fu’n rhan o’r gwaith yn beth i’w edmygu.

Allwch chi ddisgrifio'r broses rydych chi'n mynd drwyddi wrth lunio cerdd? 

Mae llunio cerdd ar gyfer comisiwn fel hwn yn medru bod yn heriol. Mae gan bawb ei safbwynt, ac mae’r safbwyntiau’n aml yn rhai dwys a phersonol iawn. Eto i gyd, yn sgil siarad â’r tîm, daeth yn amlwg fod rhai themâu cyffredin y gallwn i eu blaenoriaethu yn y gerdd, sef cryfder ewyllys y bobl sy’n darparu gofal a’r gallu i drosglwyddo’r cryfder hwnnw i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Roedd y môr yn ddelwedd amlwg hefyd o’r dechrau, yn syml am fod Aberystwyth yn dref glan môr, a cheir llawer iawn o ddelweddau cyfoethog yn ymwneud â’r traeth a’r tonnau y gallwn eu defnyddio yn y gerdd. Roedd ysgrifennu’n broses reit hwylus wedyn yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Sut ydych chi'n gobeithio y bydd eich gwaith celf yn cael effaith ar gleifion, staff ac ymwelwyr yn uned Ganser Leri?

Rwy’n gobeithio y bydd y gwaith yn cael effaith gadarnhaol iawn ar bawb. Mae canolbwyntio ar rywbeth cadarnhaol, ni waeth beth yw’r peth hwnnw – cerdd, darn o gelf, sgwrs, llun, cerddoriaeth – yn medru bod yn ffordd dda iawn i roi trefn ar bryderon a dod i delerau â sefyllfaoedd anodd. Os dim arall, rwy’n gobeithio y bydd y gerdd yn atgoffa’r sawl sy’n ei darllen nad ydynt byth, ni waeth beth yw eu hanawsterau, ar eu pen eu hunain.