Llwyddiannau a heriau gofal iechyd y GIG ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn ystod 2021/22 oedd ffocws Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda eleni.
Fe’i cynhaliwyd ddydd Iau 28 Gorffennaf 2022, ac adolygodd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Adroddiad Blynyddol y sefydliad, gan gynnwys ei gyfrifon ariannol. Roedd yr adroddiad a’r cyflwyniadau’n nodi i staff, cleifion, a’r cyhoedd yn gyffredinol yr hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn, yr hyn sydd wedi bod yn anodd, a sut y mae’r bwrdd iechyd yn bwriadu gwella gwasanaethau i bobl leol.
Roedd y prif themâu’n cynnwys sut mae’r bwrdd iechyd yn gwneud cynnydd yn erbyn ei amcanion strategol newydd, rheoli ei ymateb lleol a rhanbarthol i’r pandemig COVID-19 parhaus, a pharhau i ddarparu gofal iechyd i’r rhai sydd ei angen fwyaf. Cyfeiriwyd at wasanaethau newydd i gleifion, cyfleusterau ymchwil ychwanegol ac unswydd, datblygiadau gweithlu a datblygiadau cyfalaf mewn ysbytai acíwt ar draws y tair sir. Darparwyd cynnydd ar amcanion llesiant, gwasanaethau Cymraeg, a chyflwyniad achos busnes y bwrdd iechyd ar gyfer buddsoddiad o £1.3biliwn yn ei strategaeth hirdymor. Rhoddwyd canmoliaeth hefyd i’r holl staff, gan gynnwys y rhai sydd wedi ennill neu gyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwsinau o wobrau ac i’r bwrdd iechyd fel cyflogwr.
Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rhoddodd y digwyddiad blynyddol hwn gyfle i ni rannu ein myfyrdodau ar flwyddyn anodd arall, ond hefyd i symud ymlaen gyda’n nodau, dyheadau a blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod.
“Mae ein staff wedi mynd gam ymhellach bob dydd yn wyneb pwysau a heriau heb eu hail. Blaenoriaeth allweddol i ni yw parhau i gefnogi ein staff nawr ac yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.
“Rwy’n hynod falch o’r hyn y mae pawb wedi’i gyflawni yn wyneb adfyd ac, ar ran y Bwrdd, rwy’n mynegi fy niolch diffuant i’n holl staff, cleifion, partneriaid a chymunedau lleol. Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu canolbarth a gorllewin Cymru garedig ac iach ar gyfer y dyfodol.”
Roedd y bwrdd hefyd yn cydnabod bod llawer o heriau yn parhau. Mae’r Adroddiad Blynyddol yn manylu ar feysydd lle mae angen i’w berfformiad wella, ynghyd â mesurau lliniaru a chamau sy’n cael eu cymryd, mewn meysydd fel gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau, diagnosis canser a dechrau triniaeth, amseroedd aros, gofal llygaid ac asesu a therapi iechyd meddwl.
Mae gwella ansawdd yn parhau i fod yn ffocws allweddol i sicrhau’r gofal mwyaf diogel a gorau i’n cleifion a’n cymuned, ac mae rhan o’r gwaith hwn yn cynnwys gwrando ar adborth a dderbynnir gan y rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau a gweithredu arno.
Drwy gydweithio’n agos â’i bartneriaid ar weledigaeth a rennir ar gyfer ein cymunedau i fyw bywydau iach, llawen, mae’r bwrdd iechyd yn parhau i ymgysylltu â phobl leol ar bynciau fel COVID-19, ei strategaeth iechyd a gofal a’r broses arfarnu tir ar gyfer ysbyty newydd arfaethedig.
Bydd cyfarfod arbennig o’r bwrdd iechyd yn cael ei gynnal am 9.30am ar 4 Awst i ystyried adroddiadau gan bedwar grŵp arfarnu tir mewn perthynas â phum safle posibl ar gyfer yr ysbyty newydd arfaethedig. Bydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio’n fyw, gyda dolen yn cael ei phostio o wefan y bwrdd iechyd.
Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth i gefnogi grwpiau agored i niwed, cartrefi gofal, gofal cymdeithasol a rhyddhau diogel, wedi datblygu cyfleoedd newydd gyda phrifysgolion lleol ac yn parhau fel aelod gweithgar o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed-Powys.
Gallwch weld recordiad o'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yma (agor mewn dolen newydd)