Neidio i'r prif gynnwy

Cŵn Therapi Sir Gaerfyrddin

21 Hydref 2022

Bu i Cŵn Therapi Sir Gaerfyrddin ymweld ag Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn ddiweddar. Roedd eu hymweliad diweddaraf â ward Cilgerran fel rhan o wythnos Chwarae yn yr Ysbyty.

Dechreuodd cynllun Cŵn Therapi Sir Gaerfyrddin yn 2015. Maent yn gweithio'n annibynnol, gan ymweld ag atgyfeiriadau gan gynnwys rhai o wardiau'r Bwrdd Iechyd. Mae’r gwirfoddolwyr a’u cŵn yn cael eu recriwtio, eu hasesu a’u gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ac maent i’w gweld gan eu iwnifform a’u cotiau cŵn cyfatebol.

Bydd un o’r gwirfoddolwyr nawr yn ymweld yn rheolaidd â ward Cilgeran, a ward Tywi yn Ysbyty Glangwili. Y nod yw i fwy o wirfoddolwyr ymuno â'r tîm er mwyn caniatáu iddynt ymweld â mwy o wardiau’r bwrdd iechyd.

Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn cefnogi pobl mewn cartrefi gofal, ysbytai ac ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin a’r siroedd cyfagos, gan ddod â chysur, a lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd.

Dywedodd Karen Thomas, Pennaeth Chwarae Therapiwtig: “Roedd Wythnos Chwarae yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd chwarae therapiwtig mewn adferiad cleifion. Mae ymweliad y cŵn a’r gwirfoddolwyr o fudd mawr i’n cleifion a’n staff. Rydyn ni wedi gweld ymateb gwych gan gleifion sy'n aml yn swil”

Dywedodd Sue Smith o Gŵn Therapi Caerfyrddin: “Mae’r manteision wedi bod yn gadarnhaol. Fel gwasanaeth rydym yn sicrhau bod gennym aelod o staff gyda ni bob amser yn ystod ymweliad a chredwn, ar wahân i’r defnyddiwr gwasanaeth, fod staff wardiau ysbytai hefyd yn manteisio o’r profiad”

Mae Cŵn Therapi Sir Gaerfyrddin ar Facebook Carmarthenshire Therapy Dogs | Facebook neu cysylltwch â carmstherapydogs@gmail.com Rhif Ffôn:07980591580.