10 Hydref 2023
Wrth i'r dyddiau fyrhau o’n cwmpas, ac wrth inni ddechrau swatio yn ein cartrefi clyd, gall meddwl am fentro allan i’r awyr agored beri gofid.
Fodd bynnag, gall codi a mynd allan i’r awyr agored ein helpu i deimlo'n well mewn sawl ffordd. Nid oes angen inni loncian neu redeg i gefnogi ein llesiant meddyliol a chorfforol – mae manteision mynd am dro ym myd natur yn hysbys iawn.
Gan gydnabod y gall cymryd y cam cyntaf hwnnw yn yr awyr agored, neu wneud amser i fynd am dro, fod yn rhywbeth sy’n llithro i waelod ein rhestr o bethau i’w gwneud, mae timau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gobeithio rhoi anogaeth trwy gynllun newydd sef Crwydro Canol Wythnos.
O 25 Hydref ymlaen, mae gwahoddiad agored i aelodau o gymuned Llambed, a thu hwnt, i ymuno mewn taith gerdded wythnosol yn y parc am 1pm bob dydd Mercher.
Fel yr eglura Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Boed law neu hindda, rydym yn gwahodd unrhyw un a hoffai ymuno â ni am dro yn y parc, a hynny am 1pm bob dydd Mercher. Byddwn yn cerdded dau lwybr, un sy’n 300 metr o hyd ac un arall sy’n tua milltir o hyd, gall unrhyw un sy’n ymuno â ni ddewis yr un sydd fwyaf addas iddyn nhw ar y diwrnod.”
Bydd y daith gerdded yn cychwyn ac yn gorffen yn Ffreutur Lloyd Thomas, campws Llambed PCYDDS, a bydd pawb sy’n cymryd rhan yn y daith gerdded yn cael cynnig paned o de neu goffi am ddim i gynhesu ar y diwedd.
Meddai Phil: “Dyma gyfle gwych i aelodau o’n cymuned leol i ddod ynghyd am dro yn y prynhawn – boed hynny am gwmni, ychydig o ymarfer corff neu dim ond i gael awyr iach – mae croeso cynnes i bawb o bob oed a gallu, beth bynnag fo'r tywydd. Mae croeso hefyd i gŵn sy'n ymddwyn yn dda ar dennyn ymuno yn yr hwyl.
“Does dim terfyn amser i gwblhau’r llwybr – os hoffech chi fynd am gerddad gyflym neu gerddad ling-di-long dan sgwrsio, does dim pwysau i gadw i fyny’r naill ffordd na’r llall. Does dim angen unrhyw offer arbenigol – gwnewch yn siŵr bod gennych chi esgidiau cyfforddus, rhywbeth i’ch ‘mochel rhag y glaw, a’ch bod yn barod i dreulio peth amser yn yr awyr agored.”
Ychwanega Gwilym Dyfri Jones, Profost ar gampysau Llambed a Chaerfyrddin, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Rydym yn hynod falch o fod yn rhan o’r fenter hon ac yn gobeithio y bydd rhai o’n myfyrwyr a’n staff hefyd yn manteisio ar y cyfle i ymuno. Yn gynharach eleni, enillodd y Brifysgol y Faner Werdd mewn cydnabyddiaeth o sut mae ein hystadau a'n tiroedd yn cael eu rheoli, a sut rydym yn gofalu am ein hardaloedd gwyrdd mewn ffordd sy'n annog bywyd gwyllt a'r amgylchedd naturiol. Rydym wrth ein bodd y bydd mwy o bobl yn mwynhau ein gerddi a’n mannau gwyrdd ar y campws wrth Grwydro Canol Wythnos. Dylai hyn hefyd atgyfnerthu cysylltiadau’r Brifysgol gyda’n cymuned leol.”
Anogir pobl sydd â diddordeb mewn ymuno â’r daith gerdded i ddod draw i Ffreutur Lloyd Thomas, campws Llambed PCYDDS am 1pm ar 25 Hydref. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Digwyddiadau-Events@uwtsd.ac.uk neu ffoniwch Hwb Cyfathrebu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 0300 303 8322 a dewiswch opsiwn 5.