Neidio i'r prif gynnwy

Craig yn ennill prif wobr genedlaethol

13 Mehefin 2025

Llongyfarchiadau i Craig Baker, rheolwr patholeg cellog a gwasanaeth marwdy ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sydd wedi ennill gwobr gofal iechyd cenedlaethol flaenllaw.

Cyflwynwyd gwobr Gwyddonydd Biofeddygol y Flwyddyn Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd 2025 i Craig mewn digwyddiad arbennig yn Llundain ddydd Gwener, 23 Mai.

Nod Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd 2025 yw cydnabod gwaith gwyddonwyr gofal iechyd, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cysylltiedig a'r rhai sy'n gweithio ochr yn ochr â nhw ledled y DU.

Noddwyd gwobr Gwyddonydd Biofeddygol y Flwyddyn gan Sefydliad y Gwyddorau Biofeddygol a'i chyflwyno gan ei llywydd Joanna Andrew.

Dywedodd Craig: “Mae ennill Gwyddonydd Biofeddygol y Flwyddyn yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd y DU 2025 yn anrhydedd enfawr ac yn gyflawniad rwy'n hynod falch ohono.

“Mae’r wobr hon yn adlewyrchu ymrwymiad, ymroddiad a gwaith rhagorol diysgog Gwyddonwyr Biofeddygol ar draws y proffesiwn, o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a ledled Cymru.

"Rwy'n gobeithio defnyddio'r gydnabyddiaeth hon i helpu i amlygu cyfraniadau amhrisiadwy Gwyddonwyr Biofeddygol a Gweithwyr Proffesiynol Gwyddor Iechyd a'r rôl hanfodol rydyn ni'n ei chwarae wrth ddarparu gofal cleifion."

Dywedodd Dr Jonathan Arthur, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddor Iechyd yn Hywel Dda: “Hoffwn longyfarch Craig ar ennill gwobr Gwyddonydd Biofeddygol y Flwyddyn, mae’n gwbl haeddiannol. Mae gwaith Craig yn hanfodol bwysig i’r cleifion a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.”

Mae’r llun yn dangos, o’r chwith, yr Athro Chris Hopkins, Llywydd Etholedig yr Academi Gwyddorau Gofal Iechyd a Phennaeth Tritech yn Hywel Dda; Craig Baker a Victoria Heath, Prif Swyddog Gwyddonol Cymru.