Rhoddwyd cyfyngiadau symud (lockdown) ar waith yn Ysbyty Llwynhelyg fel rhagofal er diogelwch staff a chleifion yn gynharach heddiw (dydd Mawrth 03 Rhagfyr).
Ni chafodd unrhyw un ei niweidio a chynorthwyodd yr heddlu ar y safle.
Dilynodd y safle weithdrefnau sefydledig oherwydd bygythiad posibl.
Cyfyngwyd mynediad i'r safle a'r ysbyty am gyfnod byr. Mae'r sefyllfa hon bellach wedi'i datrys ac mae mynediad i'r safle wedi'i ailsefydlu.
Hoffem ddiolch i staff, cleifion a’n partneriaid am eu cymorth i reoli’r sefyllfa hon.
Mae Adran Achosion Brys yr ysbyty yn arbennig o brysur a hoffem ofyn i’r cyhoedd ein cynorthwyo drwy ddefnyddio’r adran ar gyfer argyfyngau sy’n bygwth bywyd yn unig. Os nad ydych yn siŵr pa gymorth gofal iechyd sydd ei angen arnoch, gallwch ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG Cymru ar-lein neu ffonio GIG 111 Cymru am gyngor (dewiswch opsiwn 2 ar gyfer cymorth iechyd meddwl).