Neidio i'r prif gynnwy

Clinigau cerdded i mewn: brechiad dos cyntaf ac ail ddydd Llun 21 i ddydd Sul 27 Mehefin

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal clinigau brechu cerdded i mewn yr wythnos hon. Nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad ac os ydych eisoes wedi cofrestru gan ddefnyddio ffurflen ar-lein y bwrdd iechyd, mae croeso i chi fynychu'r clinig cerdded i mewn o hyd.

Os oes gennych apwyntiad wedi'i drefnu, cadwch amser eich apwyntiad.

Gyda'r cynnydd mewn achosion ledled y DU mae'n bwysig bod cymaint o bobl yn dod ymlaen i gael eu brechiad cyntaf ac ail

Clinigau cerdded i mewn brechlyn cyntaf ar gyfer unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn a sydd heb gael eu brechlyn COVID-19 cyntaf eto :

  • Hwlffordd (Archifdy Sir Benfro, SA61 2PE) Dydd Iau 24 a Dydd Gwener 25 Mehefin, 10.00am - 8.00pm
  • Aberystwyth (Llyfrgell Thomas Parry, SY23 3AS): Dydd Iau 24 a Dydd Gwener 25 Mehefin, 10am i 8pm.
  • Aberteifi (Canolfan Hamdden Teifi SA43 1HG): Dydd Gwener 25 Mehefin, 9.30am i 5pm.
  • Caerfyrddin (Canolfan Gynadledda Halliwell, UWTSD, SA31 3EP): Dydd Llun 21, Dydd Mawrth 22, Dydd Mercher 23, Dydd Iau 24 a Dydd Gwener 25 Mehefin, 10am i 8pm.
  • Llanelli (Theatr Ffwrnes SA15 3YE): Dydd Iau 24 and Dydd Gwener 25 Mehefin, 10am i 8pm.
  • Dinbych-y-Pysgod (Canolfan Hamdden Dinbych y Pysgod, SA70 8EJ): Dydd Sadwrn 26 a Dydd Sul 27 Mehefin, 10am i 8pm

Clinigau cerdded i mewn ail frechlyn (Dylech fynychu os yw'r ganolfan yn rhoi'r un frechlyn ag y cawsoch chi ar gyfer eich dos cyntaf. Mae'r wybodaeth hon i'w gweld ar eich cerdyn brechlyn.)

  • Hwlffordd (Archifdy Sir Benfro, SA61 2PE): Dydd Mawrth 22 i Dydd Mercher 23 Mehefin, 10.00am - 8.00pm. Ail ddos brechlyn Moderna dim ond os cawsoch eich dos cyntaf ar neu cyn 11 Ebrill
  • Aberystwyth (Llyfrgell Thomas Parry, SY23 3AS): Dydd Llun 21, Dydd Mawrth 22 a Dydd Mercher 23 Mehefin, 10am i 8pm. Ail ddos brechlyn Moderna dim ond os cawsoch eich dos cyntaf ar neu cyn 11 Ebrill a ail ddos brechlyn Oxford Astrazeneca dim ond os cawsoch eich dos cyntaf ar neu cyn 25 Ebrill.
  • Llanelli (Theatr Ffwrnes SA15 3YE): Dydd Llun 21, Dydd Mawrth 22 a Dydd Mercher 23 Mehefin, 10am i 8pm. Ail ddos brechlyn Moderna dim ond os cawsoch eich dos cyntaf ar neu cyn 11 Ebrill.
  • Dinbych-y-Pysgod (Canolfan Hamdden Dinbych-y-Pysgod, SA70 8EJ): Dydd Gwener 25 Mehefin, 10am i 8pm. Ail ddos brechlyn Oxford Astrazeneca dim ond os cawsoch eich dos cyntaf ar neu cyn 25 Ebrill.

Os na allwch fynychu clinig cerdded i mewn, gallwch ofyn am eich brechlyn cyntaf trwy lenwi'r ffurflen hon https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=uChWuyjjgkCoVkM8ntyPrhRcpjSFfEpMvfa3YjA3QbpUQjUzOEtTQlVCTUVYSkxFSFMyVzExNTFJVi4u

I ofyn am eich ail ddos, defnyddiwch y ffurflen gais yma: https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=uChWuyjjgkCoVkM8ntyPrgBy54spfOZAk75cKTdlBFxUOVlRRzRLTFZFVFM5WjY1R005NzA5VEVJNy4u&fbclid=IwAR1A11CH25VCsNPziEm4vgv2o82Z2FBOXegswFkpVgwABrYD97xYHlA-YXE

Os na allwch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod ddefnyddio ffurflen ar-lein, cysylltwch â'n tîm archebu ar 0300 303 8322.

Pwysig: Trwy deithio i ganolfan, rydych chi'n derbyn bod risg y bydd pob brechlyn wedi cael ei ddyrannu cyn i chi gyrraedd. Os byddwch chi'n cyrraedd ar ôl i'r holl frechlynnau gael eu dyrannu, byddwn yn cymryd eich manylion cyswllt ac yn eich ychwanegu at ein rhestr wrth gefn.