Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion yn canmol grŵp garddio therapiwtig yn Sir Benfro

27 Tachwedd 2024

Mae pobl sy’n byw gydag effeithiau anaf i’r ymennydd a chyflyrau niwrolegol wedi canmol effaith gadarnhaol grŵp garddio niwroadsefydlu therapiwtig cyntaf Sir Benfro.

Mae’r grŵp yn cael ei redeg gan wasanaeth niwroadsefydlu cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP), tîm rhyngddisgyblaethol sydd yn edrych ar ffyrdd o wella iechyd, adferiad ac adsefydlu pobl.

Mewn partneriaeth rhwng Parc Maenor Scolton a’r gwasanaeth niwroadsefydlu cymunedol, mae’r grŵp yn darparu garddio wedi’i addasu a gweithgareddau awyr agored i gleifion cymwys fel rhan o’u niwroadsefydlu cymunedol.

Yn dilyn cynllun peilot chwe wythnos lwyddiannus yn 2021, enwodd y cyfranogwyr eu hunain yn Grŵp Garddio Heads-Up - neu HUG - gyda grwpiau tymhorol pellach yn parhau trwy gydol 2024 gyda gweithgareddau garddio amrywiol.

Mae staff therapi galwedigaethol o’r gwasanaeth niwroadsefydlu cymunedol wedi bod yn ganolog i gychwyn a datblygu’r grŵp garddio therapiwtig, ynghyd â mewnbwn a chefnogaeth amhrisiadwy gan staff Parc Maenor Scolton a’r tîm amlddisgyblaethol ehangach.

Mae hyn wedi cynnwys ffisiotherapi, niwroseicoleg, therapi iaith a lleferydd, nyrs niwro arbenigol ac ymarferwyr cynorthwyol therapi a phrif arddwr Parc Maenor Scolton.

Arweiniwyd y prosiect peilot yn 2021 gan Phillippa Lee, Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a ddywedodd: “Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint lwyr gallu hwyluso grŵp therapiwtig lleol, gan ddod â phobl ynghyd i ddatblygu eu hunain, dysgu i hunanreoli eu symptomau a chefnogi taith adsefydlu ei gilydd.

“Roedd y tîm yn teimlo y gallai anghenion pobl a nodau adsefydlu gael eu diwallu mewn lleoliad grŵp therapiwtig, a oedd wedi bod yn llwyddiannus mewn siroedd eraill.

“Rydym yn gweithio fel tîm gyda phwrpas cyffredin, gan addasu gweithgareddau therapiwtig o fewn amgylchedd cefnogol i weithio ar anghenion a nodau unigol fel rhan o'u cynllun niwroadsefydlu cymunedol.

“Rydym wedi gweld canlyniadau cadarnhaol i gleifion, gyda phobl yn symud ymlaen o’r grŵp HUG i rolau gwirfoddol, yn dychwelyd i’r gwaith ac yn cychwyn ar nodau bywyd eraill.

“Rydyn ni nawr yn y broses o werthuso’r effaith ar adferiad ac adsefydlu pobl wrth i HUG nesáu at ei unfed cohort ar ddeg a disgwylir iddo ailddechrau yn ystod gwanwyn 2025.”

Arweinir gweithgaredd y grŵp garddio gan brif arddwr Parc Maenor Scolton, Simon Richards, ochr yn ochr â therapyddion galwedigaethol ac ymarferwyr cynorthwyol therapi, gyda chefnogaeth gan y gwasanaeth niwroadsefydlu cymunedol.

Mae cyfranogwyr y grŵp yn cael cyfleoedd i ddod yn fentoriaid neu symud ymlaen i rolau a chyfleoedd gwirfoddol ym Mharc Maenor Scolton, fel bod yn rhan o’r ‘Tîm Gwyrdd’. Gall y cyfleoedd hyn wedyn arwain at gyflogaeth â thâl.

Dyma ychydig o adborth gan bobl sydd wedi mynychu’r grŵp, gan amlygu’r effaith gadarnhaol y mae HUG wedi’i chael ar eu bywydau:

Pan es i i’r grŵp am y tro cyntaf, roeddwn i’n teimlo braidd yn nerfus a lletchwith i gwrdd â phobl newydd a doeddwn i ddim yn gwybod beth oedden ni’n mynd i’w wneud. Ond dim ond ychydig o sesiynau gymerodd hi i deimlo'n gartrefol. Roedd y staff yn barod iawn i helpu, ac roedd yn wych cyfarfod â phobl sy’n deall sefyllfaoedd tebyg.”

“Grŵp mor wych i fod yn rhan ohono. Mae mor ddefnyddiol treulio amser gyda phobl sydd â phroblemau tebyg. Rydw i wedi dysgu llawer am arddio ac wedi symud ymlaen llawer fel person.”

“Rwyf wedi mwynhau’r grŵp yn fawr; mae wedi fy helpu gyda fy hyder. Diolch yn fawr iawn i chi i gyd am roi fy mywyd yn ôl i mi a'r holl gefnogaeth mae pawb wedi ei roi i mi. Diolch yn fawr iawn i Simon am yr holl help y mae wedi ei roi i mi ar y daith hon o fyw.”

“Amgylchedd cefnogol cadarnhaol i ddysgu mwy am natur a sut i reoli blinder a symptomau eraill anaf i’r ymennydd. Ffordd wych o gwrdd a mwynhau amser gydag eraill sydd wedi'u heffeithio gan Anaf i'r Ymennydd a gwneud ffrindiau newydd. Diolch o’r galon i Simon a’r tîm niwroadsefydlu am brofiadau awyr agored gwych.

Dywedodd Phillipa: “Rydym yn gobeithio gallu parhau â’r fenter hon ar y cyd â Pharc Maenor Scolton a hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran am wneud y cyfle adsefydlu hwn yn bosibl.”

“Diolch arbennig i’n partneriaid ym Mharc Maenor Scolton, Mark Thomas a Simon Richards, ac i’r holl staff sy’n gweithio yn y gwasanaeth niwroadsefydlu cymunedol am eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad i barhau â’r grŵp gwerthfawr hwn.

“Hoffem ddiolch yn arbennig i’n cleifion am ein hysbrydoli i ddatblygu HUG, am eu holl waith caled, eu hymroddiad a’u creadigrwydd.”