Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion lymffoedema i elwa o gymorth iechyd meddwl ar-lein

24 Ionawr 2025

Mae clinig arloesol wedi ymuno â gwasanaeth lles digidol GIG Cymru i helpu cleifion rheoli effeithiau iechyd meddwl Lymffoedema a Syndrom Lipalgia.

Sefydlodd Rhwydwaith Clinigol Lymffhoedema Cymru (RhCLC) wasanaeth cymorth seicolegol - yr unig un o'i fath yn y DU - wedi i gleifion siarad am yr heriau emosiynol o fyw gyda'r cyflyrau hyn.

Datgelodd cleifion sut roedd iselder, gorbryder a phryderon am ymddangosiad yn cyd-fynd â'u symptomau corfforol yn aml.

Mae'r gefnogaeth a gynigir gan ddau seicolegydd y gwasanaeth bellach yn cael ei ategu gan atgyfeiriadau uniongyrchol at SilverCloud Cymru, cyfres o gyrsiau hunangymorth ar-lein yn seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT).

Dywedodd Dr Jayne Williams, Seicolegydd Ymgynghorol Cenedlaethol Lymffoedema ar gyfer RhCLC: "Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ni.

"Rydyn ni'n edrych ar wahanol ffyrdd i bobl gyrchu therapïau seicolegol ac mae SilverCloud yn un ohonyn nhw. Y nod yw darparu cefnogaeth amserol, ataliol cyn i bobl gyrraedd pwynt argyfwng.

"Gan fod SilverCloud ar-lein, mae ganddo'r gallu i gyrraedd llawer mwy o bobl nag y gallem ei weld wyneb yn wyneb, ac mae ei hyblygrwydd yn golygu ei fod yn cyd-fynd â bywyd gwaith a theuluol prysur.

"Mae gallu cynnig rhywbeth y gall cleifion ei wneud yn eu ffordd eu hunain, ar eu cyflymder eu hunain yn wych."

Dywedodd rheolwr prosiect CBT ar-lein GIG Cymru, Fionnuala Clayton, fod y llwybr atgyfeirio newydd wedi'i ysbrydoli'n rhannol gan adborth o ddigwyddiad 'Byw'n Dda gyda Lymffoedema' a gynhaliwyd gan RhCLC, lle gofynnwyd i gleifion beth yr hoffent ei gael o'i wasanaeth seicoleg newydd.

"Roedd cleifion eisiau teimlo nad oedden nhw ar eu pennau eu hunain a'u bod yn gallu parhau i gael bywyd iach a hapus er gwaethaf eu cyflwr," meddai Fionnuala. "Roedden nhw eisiau mynediad hawdd at gefnogaeth ar gyfer adeiladu gwytnwch ochr yn ochr â chymorth i helpu eu hunain.

"O ganlyniad i’r digwyddiad, roeddem yn gwybod y byddai llwybr atgyfeirio yn cefnogi llawer o gleifion ledled Cymru."

Mae Syndrom Lipalgia - a elwir hefyd yn Lipoedema - yn groniad annormal o feinwe brasterog, fel arfer yn hanner isaf y corff, sy'n effeithio'n fwy cyffredin ar fenywod.

Mae lymffoedema yn gyflwr hirdymor nad oes modd gwella ohonno, sy'n datblygu oherwydd system lymffatig sydd wedi'i difrodi neu sy’n wael. Gall difrod ddigwydd o ganlyniad i lawer o ffactorau gan gynnwys gordewdra, llawdriniaeth, triniaeth canser, haint neu anaf.

Mae diffyg ymarfer corff yn gwneud i bobl yn arbennig o agored i niwed gan fod y system lymffatig yn dibynnu ar symudiad i aros yn iach a symud yr hylif lymff o amgylch y corff. Mae'r symptomau'n cynnwys breichiau/coesau trwm wedi’u chwyddo ac yn boenus a risg uwch o heintiau a chlwyfau croen.

Dywedodd Dr Williams: "Mae'r rhain yn gyflyrau y mae'n rhaid i bobl ddysgu byw gydag am byth, sy'n gallu bod yn anodd iawn.

"Mae'n rhaid iddyn nhw ymdopi â chwyddo a phoen, efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw wisgo rhwymynnau neu ddillad cywasgu, cynnal gofal croen dyddiol a symud llawer.

"Rydyn ni'n gweld llawer o bobl sydd â hwyliau isel iawn. Mae yna hefyd lawer o orbryder ynghylch delwedd y corff ac agosatrwydd.

"Mae teimlo bod pobl yn eich beirniadu, ac efallai methu dod o hyd i ddillad neu esgidiau sy'n addas i chi, yn golygu y gellir effeithio ar eich hunaniaeth gyfan a'ch hyder cymdeithasol. Gallwch deimlo'n fwy ynysig ac wedi'ch tynnu'n ôl."

Mae tua 25,000 o bobl ledled Cymru yn defnyddio gwasanaethau RhCLC.

Gall gwasanaethau lymffoedema byrddau iechyd lleol atgyfeirio pobl at y gwasanaeth seicoleg yn y Tîm Lymffoedema Cenedlaethol, sy'n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Dywedodd Dr Williams bod nifer o gleifion wedi cael eu hatgyfeirio at raglen Gofod i Ddelwedd Bositif o’r Corff SilverCloud ar ôl mynychu gweithdy delwedd corff.

Ymhlith y cyrsiau eraill sydd ar gael mae cefnogaeth i orbryder, iselder a straen.

Gall unrhyw un yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn hunanatgyfeirio at SilverCloud, heb weld meddyg teulu ac o gysur eu cartref.

Ychwanegodd Fionnuala Clayton: "Rydym yn falch iawn bod Rhwydwaith Clinigol Lymffoedema Cymru yn ymuno â ni. Mae hyn wedi bod yn ymdrech gydweithredol rhwng gwasanaethau, gan weithio gyda'i gilydd i nodi'r ffordd orau o gefnogi cleifion sy'n byw gyda Syndrom Lipalgia a Lymffoedema."

Am ragor o wybodaeth a chefnogaeth ar Lymffoedema a Syndrom Lipalgia, ewch i https://rclc.gig.cymru/

I hunanatgyfeirio at SilverCloud Cymru, ewch i https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/